Neidio i'r prif gynnwy

Siopau Cymru - defnyddiwch nhw neu fe gollwch chi nhw, medd Ysgrifennydd yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gan ddechrau ar ddiwedd blwyddyn anodd i siopau'r DU, mae'r ymgyrch yn fenter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chonsortiwm Manwerthu Cymru a'i bwriad yw herio'r gamddealltwriaeth sy'n tyfu am ddyfodol y sector.

Er gwaetha'r anawsterau sy'n wynebu'r diwydiant, y sector manwerthu yw cyflogwr preifat mwyaf Cymru o hyd, gyda bron 12,000 o siopau'n darparu 130,000 o swyddi. Ac mae yna siopau bron ym mhob cymuned yng Nghymru, gan ddarparu gwasanaethau hanfodol i bobl leol ac ymwelwyr ac yn lleoedd pwysig i gymdeithasu a chyfarfod.

Ffocws un elfen o'r ymgyrch yw'r ffaith ei fod yn ddiwydiant deinamig ac yn un sy'n newid yn gyflym iawn i gwrdd ag anghenion cwsmeriaid. Yn ogystal â chynnig oriau gwaith hyblyg a chyflogau da, a dyfodd 7% ar gyfartaledd y llynedd, mae'r ymgyrch yn hyrwyddo manwerthu fel dewis gyrfaol da sy'n cynnig llawer o gyfleoedd am ddyrchafiad.

Mae elfen arall yr ymgyrch yn edrych ar y buddiannau y mae'r sector yn eu rhoi i'r gymuned, gyda siopau ledled Cymru'n sbarduno'r economi leol i dyfu, yn buddsoddi yn eu cymunedau ac yn lleoedd pwysig i bobl gymdeithasu â'i gilydd.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates;

"Rwy'n falch iawn o gael bod yn rhan o'r ymgyrch hon sy'n dathlu ac yn hyrwyddo gwaith da ein sector manwerthu. Mae siopau o bob lliw a llun yn chwarae rhan bwysig yn ein bywydau pob dydd, ond gyda'r ffordd y mae pobl yn siopa yn newid a chystadleuaeth yn cynyddu, does dim dwywaith ei bod hi'n gyfnod anodd ar y sector.

"Y gwir plaen yw, os na wnawn ni ddathlu'r sector a gwneud defnydd da ohono, mae perygl mawr y collwn rannu pwysig ohono.

"Mae fy Nghynllun Gweithredu ar yr Economi yn cydnabod pwysigrwydd siopau ac yn eu nodi fel un o'n pedwar Sector Sylfaen. Mae hynny'n golygu bod pob rhan o'r Llywodraeth yn gweithio i wneud y sector yn fwy cynaliadwy ac i wella ei ddelwedd a sut rydym yn ei weld. Rydyn ni'n gweithio hefyd i gynyddu impact siopau yn ein cymunedau a'n rhanbarthau.

"Mae'r ymgyrch newydd, sy'n dathlu cyfraniad y sector manwerthu i'n heconomi, ein cymunedau ac fel darparwr gyrfaoedd, yn cefnogi'r uchelgeisiau hyn, ac rwy'n gobeithio y gall helpu i sicrhau dyfodol llewyrchus i'r sector."


Dywedodd Sara Jones, Pennaeth Consortiwm Manwerthu Cymru:

"Mae sector manwerthu Cymru'n ddiwydiant cyffrous, deinamig ac amrywiol sy'n wynebu newidiadau mawr. Mae sector manwerthu llewyrchus yn llwybr gwych at swyddi â chyflogau uwch, mwy o fuddsoddi gan y sector preifat, prisiau gwell i gwsmeriaid ac yn llwybr pwysig i'r farchnad ar gyfer cynhyrchwyr.

"Yma yng Nghymru, mae'n gyfrannwr cymdeithasol ac economaidd pwysig, y cyflogwr mwyaf yn y sector preifat, gan ddarparu gwaith a gwasanaethau i gymunedau ar hyd a lled y wlad. Mae aelodau Consortiwm Manwerthu Cymru'n gweithio'n galed i gynnig gyrfaoedd bras ac i ymrwymo i weithio at ddarparu swyddi sy'n fwy hyblyg, sy'n talu'n dda ac sy'n cynnig llwybr dyrchafu.

"Mae'r ymgyrch hon yn gyfle inni ddangos y cyfleoedd hynny yn ogystal â'r rôl bwysig y mae siopau'n eu chwarae yn ein bywyd pob dydd."