Neidio i'r prif gynnwy

Mae ffigurau a gyhoeddwyd heddiw gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod cynnydd yn nifer y bobl wnaeth deithio i Gymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwelwyd cynnydd sylweddol yn yr arian a wariwyd gan yr ymwelwyr hyn wrth iddynt ymweld â Chymru.  

Gwnaeth trigolion o Brydain 84 miliwn o ymweliadau dydd â Chymru, a gwnaethant wario £3,168 miliwn. O’i gymharu â’r 12 mis blaenorol, mae nifer yr ymweliadau hynny 5.5% yn uwch, tra bo’r gwariant perthnasol 23.8% yn uwch. Ar gyfartaledd, wrth i bobl ymweld â Chymru am ddiwrnod, mae’r cyfartaledd gwariant yn uwch nag ydyw ar gyfer Prydain Fawr yn gyffredinol.

Hefyd, gwelwyd cynnydd yn nifer yr ymwelwyr o Brydain wnaeth aros dros nos yng Nghymru. Yn y 12 mis rhwng Ebrill 2015-Mawrth 2016, gwelwyd cynnydd o 1.6% yn nifer y teithiau a wnaed i Gymru o’i gymharu â’r 12 mis rhwng Ebrill 2014-Mawrth 2015.

Mae’r cynnydd yng ngwariant yr ymwelwyr hyn yn parhau i gynyddu hefyd. Gwelwyd cynnydd o 7.4% yn y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2016

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: 

“Mae’n newyddion arbennig bod nifer y bobl sy’n treulio diwrnod yng Nghymru wedi  cynyddu, yn enwedig am fod y ffigurau hynny’n cynnwys cyfnod y Pasg. Mae hefyd yn galonogol i weld bod pobl yn gwario llawer mwy wrth iddynt ddod ar deithiau i Gymru o’i gymharu â’r llynedd. Mae hyn yn dangos ein bod yn rhoi rhesymau cryf  i bobl dros Ymweld â Chymru  ̶  boed hynny i fwynhau ein gweithgareddau a’n tirwedd yn ystod ein Blwyddyn Antur neu i ymweld â’r doreth o atyniadau sydd gennym.

“Mae perfformiad ein tîm cenedlaethol y tu hwnt i bob disgwyl wrth iddynt greu hanes ym mhencampwriaeth Ewro 2016. Aelodau’r tîm, ynghyd â’r cefnogwyr, yw’r llysgenhadon gorau posibl i Gymru. Rydw i’n sicr y bydd y llwyddiant hwn, ynghyd â’r proffil a ddaw yn ei sgil, yn arwain at bobl yn ymddiddori o’r newydd yng Nghymru dros y flwyddyn nesaf.”