Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru’n chwilio am bobl newydd i ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr y Llyfrgell Genedlaethol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel un o’r chwe Llyfrgell Adnau Gyfreithiol yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn gofalu am gasgliad rhyfeddol o drysorau diwylliannol, o baentiadau a ffotograffau i archifau, llyfrau, storïau a deunydd clyweledol.  Hi sy’n gwarchod cof diwylliannol ein gwlad. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn gartref i 6 miliwn o lyfrau, 1.5 miliwn o fapiau, 950,000 o ffotograffau a 50,000 o ddarnau celf. 

Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr y Llyfrgell Genedlaethol a’r Llywodraeth Genedlaethol yn chwilio am Is-Lywydd a thri Ymddiriedolwr ac yn awyddus i benodi pedwar unigolyn brwd, ymroddedig ac ysbrydoledig i’r swyddi hyn.

Y Bwrdd yw corff llywodraethu’r Llyfrgell Genedlaethol ac yn gyfrifol am bennu cyfeiriad strategol y corff cenedlaethol pwysig hwn ac am gynnal safonau uchel o ran atebolrwydd cyhoeddus. 

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates, sydd hefyd yn gyfrifol am Ddiwylliant a’r Celfyddydau yng Nghymru:    

“Rydyn ni’n chwilio am bobl newydd a deinamig i ymuno â Bwrdd y Llyfrgell Genedlaethol a fydd yn adlewyrchu amrywiaeth a diddordebau’r Gymru fodern.  Dyma gyfle rhagorol i bobl sydd ag angerdd a gweledigaeth i ymuno â’r Bwrdd a helpu i arwain a chefnogi’r Llyfrgell Gen. 

“Mae hwn yn gyfle gwych i bawb, o hen lawiau i gyw ymddiriedolwyr, i gyfrannu ac i ennill profiad gwerthfawr a buddiol.” 

Dywedodd hefyd: 

“Rwy’n awyddus i weld y Llyfrgell yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella’n gwasanaethau cyhoeddus ymhellach a’u gwneud mor ddeniadol a hygyrch â phosib i bawb. 

“Rwyf am weld mwy o ymwelwyr nag erioed yn manteisio ar y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan y Llyfrgell Genedlaethol, boed hynny’n bersonol neu drwy ddefnyddio technoleg ddigidol, a defnyddio’i chasgliadau i greu eu hanturiaethau eu hunain.  Rwy’n awyddus hefyd i weld y Llyfrgell Genedlaethol yn cysylltu ag amrywiaeth o gymunedau ledled Cymru, yn enwedig â’r bobl hynny nad ydyn nhw erioed wedi ymweld â’r Llyfrgell o’r blaen ac sy’n teimlo nad yw’n lle iddyn nhw.” 

Meddai Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol, Rhodri Glyn Thomas, 

“Mae’n ddyddiau cyffrous ar y Llyfrgell Genedlaethol.  Rydyn ni’n wynebu heriau mawr ond hefyd yn wynebu cyfleoedd newydd.  Rydyn ni’n chwilio am unigolion brwd i ymuno â ni ar y daith hon ac i gyfrannu at greu dyfodol llewyrchus a chreadigol i’r Llyfrgell.” 

Mae’r swyddi hyn yn rhai gwirfoddol a di-dâl, ond telir unrhyw gostau rhesymol a ysgwyddir wrth wneud gwaith y Llyfrgell.  Bydd swydd yr Is-Lywydd yn golygu 3-4 niwrnod o waith y mis a bydd gofyn i’r Ymddiriedolwyr fod ar gael am o leiaf 12 diwrnod y flwyddyn. 

Sut i ymgeisio

Cewch fwy o wybodaeth a ffurflenni cais ar gyfer swyddi’r Is-Lywydd a’r Ymddiriedolwyr yn yr adran ddolenni perthnasol ar y tudalen hon.

Y dyddiad cau yw 23 Medi 2016.  Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn dechrau ar eu swyddi o 1 Rhagfyr 2016.