Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cymru’n croesawu dau gymal o brif râs feics Prydain – y Tour of Britain.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cymru wedi cynnal cymalau o’r Tour bob blwyddyn ers 2010, gyda’r râs yn dechrau yn Ynys Môn y llynedd. Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r digwyddiad eleni. Y mae seiclo a beicio mynydd yn cyfrannu £54 miliwn i economi Cymru. 
Dechreuodd Cymal 4 yn Ninbych fore 7 Medi, y tro cyntaf erioed i gymal gychwyn yn Sir Ddinbych, cyn bwrw ymlaen trwy Sir y Fflint ac yna i Bowys, y tro cyntaf i gymal orffen yn y Sir, hynny ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd. 
Ddiwrnod yn ddiweddarach, bydd Cymal Pump yn dechrau yn Aberdâr yn Rhondda Cynon Taf, lleoliad newydd ar gyfer y Tour of Britain. Bydd y cymal yn croesi’r De ac yn gorffen yng Nghaerfaddon. 
Mae wyth medalydd o Gemau Olympaidd Rio ymhlith y rheini fydd yn dechrau Tour of Britain 2016, gan gynnwys tri sydd wedi ennill medalau aur, sef Syr Bradley Wiggins, Owain Doull ac Elia Viviani.  Byddan nhw’n ymuno â’r 126 o seiclwyr fydd yn cystadlu dros wyth niwrnod y râs cyn gorffen yng nghanol Llundain ddydd Sul, 11 Medi.  Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates: 
“Rwy’n falch o fod wedi gallu cychwyn cymalau Cymru  yn Ninbych y bore ‘ma wrth i’r seiclwyr gychwyn trwy Gymru.  Rydyn ni’n falch iawn o gael cefnogi a chroesawu’r Tour of Britain unwaith eto eleni ac mae’n wych deall y bydd lleoliadau newydd yn cael profi gwefr y râs.  Mae’r Tour of Britain yn gyfle rhagorol inni ddangos tirwedd unigryw a hyfryd Cymru i’r byd, yn ogystal â dangos ein bod yn gallu cynnal digwyddiad mor fawr. Bydd yn gyfle i gefnogwyr weld timau a seiclwyr gorau’r byd yn cystadlu ar garreg eu drws.  Mae’r gwylwyr yng Nghymru wastad wedi rhoi croeso cynnes i’r seiclwyr gan greu awyrgylch hyfryd.  Rwy’n gobeithio y daw pobl o bob cwr o Gymru i gefnogi’r digwyddiad unwaith eto eleni.  Mae cael bod yn rhan o ddigwyddiad fel hwn yn gallu ysbrydoli pobl sydd am roi cynnig ar y gamp.  Mae ‘Blwyddyn Antur’ Cymru yn 2016 yn gyfle penigamp i drefnu anturiaethau ar ddwy olwyn yng Nghymru.”  
Bydd cyfanswm o 21 o dimau’n cystadlu yn Tour of Britain 2016, gan gynnwys 11 o dimau WorldTour yr UCI, y nifer fwyaf ym Mhrydain ers Grand Depart y Tour de France yn 2014.  Bydd saith o dimau o Brydain yn cystadlu yn y Tour of Britain, o dan arweiniad Team Sky a chan gynnwys Team WIGGINS a thîm cenedlaethol Prydain Fawr. Daw tair awr o ddarlledu byw o bob cymal o’r Tour of Britain, gydag ITV4 a BIKE Channel UK yn dangos y râs yn fyw.  Bydd ITV4 yn darlledu rhaglen o uchafbwyntiau am awr bob dydd.