Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r momentwm ar gyfer ymgyrch Blwyddyn  Chwedlau 2017 yn tyfu wrth i ddau o sêr Cymru gael eu cyhoeddi’n Genhadon iddi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cerys Matthews ac Iwan Rheon am roi eu cefnogaeth i’r ymgyrch a fydd yn dod â gorffennol Cymru’n fyw, yn ysbrydoli ymwelwyr â’n hanes epic ac yn cynnig cyfleoedd chwedlonol newydd trwy ein cyfoeth o wyliau a digwyddiadau.

Bydd y cenhadon yn dathlu diwylliant a diwydiannau creadigol Cymru a’n llwyddiant rhyngwladol yn y meysydd hyn. Bydd pobl eraill yn ymuno â nhw yn ystod y flwyddyn i ddathlu pob agwedd ar Flwyddyn Chwedlau – o goginio i’r campau.  

Cafodd yr actor Hollywood adnabyddus, Iwan Rheon, ei eni yng Nghaerfyrddin a’i fagu yng Nghaerdydd.  Dechreuodd ei yrfa actio ar Pobol y Cwm ond mae bellach yn fwyaf adnabyddus am ei ran yn y gyfres ryngwladol, Game of Thrones.  Yn ogystal, mae Iwan yn ganwr ac yn sgrifennwr caneuon. 

Dywedodd Iwan, sydd yn gweithio dramor ar ei brosiect diweddaraf – cyfres newydd Sky Atlantic -  Riviera: 

“Mae’n wych cael bod yn rhan o’r prosiect hwn.  Ro’n i mor lwcus cael storïau, hanes a diwylliant Cymru’n rhan fyw o’m magwraeth.  Mae ein storïau a’n cymeriadau’n cyfareddu ac yn troi’n hudol wrth ichi weld y tirweddau a’r lleoedd y daw’r chwedlau a’r storïau ohonyn nhw.  Dych chi byth yn bell o ddarn o hanes yng Nghymru.  Pan nad ydw i yng Nghymru, dwi byth yn colli ar gyfle i siarad amdani a bydd cael bod yn Gennad y Flwyddyn Chwedlau yn bluen arall yn fy het! Rwy’n disgwyl mlaen at rannu chwedlau epic Cymru.”

Cennad arall swyddogol y Flwyddyn Chwedlau yw Cerys Matthews, cyn-gantores gyda Catatonia a sylfaenydd y Good Life Experience Festival, a ddwedodd: 

“Rwy’n gyffrous i gael y  cyfle hwn i rannu ein diwylliant a’n treftadaeth gyfoethog â gweddill y byd.  Mae chwedlau a mythau Cymru wedi bod yn ysbrydoliaeth anferth i greadigrwydd o bob math – ym myd cerdd, celf a llên.  Trwy roi gwedd fodern i’n storïau, gallwn greu profiadau chwedlonol ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.” 

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

“Rwy wrth fy modd bod Iwan a Cerys wedi cytuno i ymuno â ni fel Cenhadon y Flwyddyn Chwedlau.  Mae gan ein cenhadon ran bwysig o ran ysbrydoli’r diwydiant a’r cyhoedd ac rydym yn disgwyl mlaen yn fawr at weithio gyda nhw yn  2017. 

“Nid edrych tua’r gorffennol yn unig fyddwn ni yn 2017.  Bydd Blwyddyn y Chwedlau’n dod â’r gorffennol yn fyw mewn ffordd cwbl newydd ac arloesol.  Y bwriad yw creu a dathlu chwedlau, cymeriadau, cynnyrch a digwyddiadau newydd, cyfoes a modern sy’n cael eu gwneud yng Nghymru neu sy’n cael eu cyfoethogi o fod yma.” 

Mae Blwyddyn y Chwedlau yn dilyn y Flwyddyn Antur – y gyntaf mewn cyfres o flynyddoedd thematig, a arweiniodd at flwyddyn epig – gyda’r Gogledd yn cael ei henwi fel un o’r deg lle gorau ar y blaned i ymweld ag e eleni.  Cododd nifer yr ymwelwyr i’r entrychion hefyd, gyda chynnydd o fwy na 40% yng ngwariant ymwelwyr undydd â Chymru yn ogystal â thwf o 15% yn nifer yr ymweliadau gan dwristiaid rhyngwladol yn chwe mis cyntaf 2016. 

Bydd y cenhadon yn helpu Croeso Cymru i fynd â’r gair am Flwyddyn y Chwedlau ar led yn ystod adegau pwysig o’r flwyddyn trwy weithio gyda’r cyfryngau ac ar y cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth am Flwyddyn y Chwedlau yng Nghymru.