Neidio i'r prif gynnwy

Wrth i Flwyddyn Chwedlau 2017 fynd o nerth i nerth, bydd Croeso Cymru a’i bartneriaid yn ymweld yr wythnos hon ag ITB Berlin, sef sioe Fasnach Deithio fwyaf blaenllaw'r byd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel arfer mae rhyw 120,000 o ymwelwyr o'r byd masnach a'r cyfryngau, ynghyd â thua 26,000 o ddefnyddwyr, yn ymweld â'r sioe. Yn ystod y 3 diwrnod cyntaf, bydd Croeso Cymru yn cynnal cyfarfodydd â busnesau o’r diwydiant teithio, y wasg a'r cyfryngau o'r Almaen, y Swistir ac Awstria, ac yn hyrwyddo Cymru i ddefnyddwyr yn ystod 2 ddiwrnod olaf y sioe. Bydd partneriaid o'r diwydiant megis Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon, Cambria DMC, Cadw a Chyrchfan Conwy yn ymuno â'r tîm ar y stondin. 
Eleni, bydd Cymru yn cynnal un o ddigwyddiadau chwaraeon blynyddol mwyaf y byd, sef Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA. Bydd Cymru yn cynnal y digwyddiad chwaraeon mawreddog hwn ym mis Mehefin, a bydd Croeso Cymru yn arddangos tlysau Rownd Derfynol y dynion a'r menywod yn sioe ITB Berlin rhwng 8 a 12 Mawrth. 
Bydd cyfle i ymwelwyr gael llun gyda'r tlysau a bydd Croeso Cymru yn cynnal cystadleuaeth i ennill wythnos fythgofiadwy yng Nghymru i ddau berson yn ystod mis Mehefin, ynghyd â thocynnau i Rownd Derfynol y dynion a'r menywod. Bydd y gystadleuaeth hefyd yn cael ei hyrwyddo ym marchnadoedd yr Almaen a'r DU drwy gydol mis Mawrth a mis Ebrill fel rhan o weithgarwch marchnata Cynghrair Pencampwyr UEFA. 
Dim ond un elfen yn unig o'r ymgyrch farchnata yw sioe ITB yn yr Almaen. Os yw Almaenwyr yn dymuno ymweld â Chymru, yna rhwng mis Ionawr a mis Mawrth y byddent fel arfer yn trefnu eu gwyliau. Felly, nod yr ymgyrch yw ysbrydoli ymwelwyr posibl i ddod i Gymru yn 2017.  Mae gwylwyr wedi ymateb yn dda i’r hysbyseb deledu newydd gyda’r seren Hollywood o Gymru, Luke Evans, a bydd honno hefyd yn cael ei dangos i ymwelwyr yn sioe ITB.  
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: 
"Yn ystod y cyfnod hwn o newid mawr, rydym yn ymrwymedig i hyrwyddo Cymru i'r byd yn fwy nag erioed ‒ gan gyflwyno hanes ein cenedl i gynulleidfaoedd newydd mewn ffordd greadigol a hyderus. Yr Almaen yw un o’r tair marchnad dramor allweddol sydd gan Gymru. Yn 2015, denodd Cymru 96,500 o ymwelwyr o'r Almaen a wariodd £30 miliwn yn economi Cymru.  Rydym yn edrych ymlaen at haf bythgofiadwy o safbwynt chwaraeon a bydd cynnal Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA, sef digwyddiad chwaraeon mwyaf y byd, yn sicr yn uchafbwynt eleni.  Mae ITB yn llwyfan heb ei ail i godi ymwybyddiaeth o'r digwyddiad sy'n dod i Gymru eleni ac rydym yn cynllunio ymgyrchoedd a fydd yn cael eu cynnal cyn, yn ystod ac ar ôl y Rownd Derfynol. Eu nod fydd nid yn unig sicrhau'r budd mwyaf i Gymru ond hefyd ysgogi budd yn y tymor hir drwy ymwelwyr o farchnadoedd y DU, yr Almaen, Ffrainc a Sbaen.”
Mae ymgyrch farchnata ddigidol sy'n hoelio sylw ar y thema Chwedlau ar waith hyd ddiwedd mis Mawrth, gan ddenu ymwelwyr i wefan Croeso Cymru a'r dudalen Facebook.  Bydd ymgyrchoedd printiedig yn cynnwys partneriaeth atodol â VisitBritain a'r cylchgrawn i fenywod 'Brigitte', yn ogystal ag ymgyrch farchnata uniongyrchol i gronfa ddata Croeso Cymru. Bydd Croeso Cymru hefyd yn gweithio gyda phartneriaid dylanwadol megis Flybe, P&O Ferries, Dertour, Tui Wolters Reisen, DFDS Seaways a KLM Germany.