Neidio i'r prif gynnwy

Mae grŵp o 18 o gynrychiolwyr ledled Iwerddon wedi bod yng Ngogledd-Orllewin Cymru i rannu eu gwybodaeth a’u profiadau o adfywio treftadaethol ac i ddysgu mwy am ein dull ni o’i hyrwyddo.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd eu hymweliad, a drefnwyd gan Wasanaeth yr Amgylchedd Hanesyddol (Cadw) Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymweliadau â threfi Biwmares, Caernarfon, Blaenau Ffestiniog a Chonwy.  


Yn ystod y ddau ddiwrnod o ddysgu dwys, bu’r cynrychiolwyr yn cyfarfod â swyddogion, cynrychiolwyr y gymuned a mentrau cymdeithasol amlwg gan ystyried materion megis y ffyrdd gorau o ddiogelu cymeriad lle a’r defnydd arloesol o’r celfyddydau wrth adfywio cymunedau.  

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: 

“Dwi’n falch bod Cadw wedi croesau’r cynrychiolwyr o Iwerddon i Ogledd Cymru a dangos hanes a threftadaeth gyfoethog Biwmares, Caernarfon, Blaenau Ffestiniog a Chonwy.  


Mae’r trefi hyn i gyd yn dangos yr amrywiol arferion da sy’n bodoli yng Nghymru i hyrwyddo treftadaeth a sicrhau cymaint â phosib o fanteision economaidd y sector i Gymru.  “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu cymunedau i ddiogelu a hyrwyddo eu traftadaeth leol ac roedd yr ymweliad hwn yn gyfle gwerthfawr inni ddysgu gwersi gan y Gwyddelod.”


Roedd cynrychiolwyr yr Irish Walled Town Network, sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Treftadaeth Iwerddon. Mae gan y rhwydwaith cymorth dros 15 o drefi ar draws y Weriniaeth a Gogledd Iwerddon sy’n canolbwyntio ar rymuso cymunedau, gan defnyddio eu treftadaeth gyfoethog i wella’r ddealltwriaeth ohono, eu cadwraeth a rhagolygon economaidd y cymunedau.  

Meddai Liam Mannix, Cydlynnydd yr Irish Walled Town Network: 

“Mae pawb yn gwybod bod gan Gymru ac Iwerddon dreftadaeth ddiwylliannol o safon fyd-eang – mae’r ymweliad hwn yn golygu gwneud y gorau o’r hyn sydd gan y ddwy wlad i’w gynnig a sut y gallwn ddysgu oddi wrth ein gilydd.  


“Mae’r rhwydwaith yn ceisio gwella ac ymateb i arfer da yn barhaus.”  

Daeth diwrnod olaf yr ymweliad i ben gyda seminar yng Nghanolfan Gelfyddol Galeri yng Nghaernarfon ble y cafodd dros 50 o gynrychiolwyr gyflwyniadau a chyfle i drafod arferion gwahanol o Gymru ac Iwerddon.