Neidio i'r prif gynnwy

Mae ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod Cymru’n parhau i ddenu mwy o ymwelwyr undydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2017, roedd 104.6 miliwn o ymweliadau undydd â Chymru, gyda gwariant cysylltiedig o £4,346 miliwn. Mae hyn yn gynnydd o fwy na 24% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol, tra cynyddodd y swm a wariwyd 35%.

Wrth sôn am y ffigurau diweddar, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

“Mewn marchnad hynod gystadleuol, mae Cymru yn dal i fod yn boblogaidd ymhlith twristiaid. Rydyn ni wedi cael y ddwy flynedd orau erioed a’n nod yw cynnal y twf hwn. Felly, mae’n newyddion gwych bod y ffigurau ar gyfer ymweliadau undydd yn cynyddu yn 2017.  Rydyn ni’n gweithio’n galed iawn i gynnal y llwyddiant hwn drwy barhau i fuddsoddi mewn marchnata a datblygu cynnyrch.  

“Mae gwaith yr ymgyrch yn parhau i droi’r diddordeb a’r cyfleoedd sy’n deillio o bunt wan yn archebion ar gyfer yr haf. Mae hwb i gyllid Croeso Cymru yn golygu bod £26.3m ar gael i fuddsoddi mewn marchnata a datblygu cynnyrch eleni. Felly, nawr, gallwn ni gydweithio ar raglen sy’n fwy uchelgeisiol nag erioed ar gyfer 2017."

Mwy o wybodaeth: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr