Neidio i'r prif gynnwy

Bydd llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau Cymru yn manteisio ar £45 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru i ddatblygu a gwella eu gwasanaethau, meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y buddsoddiad yn 2017-18 yn gweld rhaglen treftadaeth ddigidol Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chasgliad y Werin Cymru yn adeiladu ar y pethau rhagorol y maent eisioes yn ei gynnig, gan helpu i ariannu arddangosfeydd, digwyddiadau a rhaglenni yn ogystal â gofalu am dreftadaeth ddiwylliannol amhrisiadwy Cymru.


Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 


"Dwi'n falch iawn o gyhoeddi yr arian sylweddol hwn, gan gadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru unwaith eto i'n sefydliadau cenedlaethol, sy'n chwarae rhan mor bwysig wrth ddod â'n hanes a'n diwylliant yn fyw. 


" Bydd y flwyddyn a ddaw yn gweld rhai prosiectau hynod gyffrous yn agor i'r cyhoedd. Mae rhai o'r uchafbwyntiau, i mi, yn cynnwys cwblhau rhai elfennau pwysig o Sain Ffagan, yr arddangosfa Ddeinosoriaid newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac ail-ddatblygu ardal addysgu teuluol y Llyfrgell Genedlaethol.   


"Bydd Casgliad y Werin Cymru yn rhoi cymorth i gymunedau lleol gasglu diwylliant a threftadaeth leol ar-lein yn ogystal â sicrhau bod casgliadau digidol ar gael i bawb. Ac, wrth gwrs, bydd y sefydliadau hefyd yn cefnogi rhaglenni Blwyddyn y Chwedlau, Cyfuno a Cymru'n Cofio, gan gynnig ystod llawn o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous sy'n procio'r dychymyg i bobl o bob oedran. 


"Mae'r sefydliadau hyn yn drysorau sy'n cael eu mwynhau gan filiynau o bobl ledled y byd. Maent yn amddiffyn, addysgu, hysbysu a diddanu a bydd cyllid eleni yn caniatáu i'r gwaith gwerthfawr hwn barhau."  

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol,  Amgueddfa Cymru:

"Mae'r cynnydd yn ein cyllid yn newyddion da iawn i Amgueddfa Cymru a bydd yn helpu inni greu dyfodol mwy cynaliadwy i'r sefydliad. Gyda'r math yma o gymorth gan Lywodraeth Cymru, gallwn sicrhau bod swyddi yn fwy diogel, diogelu arbenigedd a chynnal y gwasanaeth amgueddfeydd o safon byd-eang ar gyfer pobl Cymru a'i hymwelwyr."

Dywedodd Linda Tomos, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru:  

"Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y gefnogaeth barhaus i sicrhau bod y Llyfrgell Genedlaethol yn gallu datblygu gwasanaeth digidol arloesol newydd gan sicrhau bod mwy o'r casgliadau cenedlaethol ar gael i bawb.