Neidio i'r prif gynnwy

Stondin Cymru yn y Meetings Show yn Olympia yw'r fenter gyntaf yn yr ymgyrch genedlaethol rydym yn ei datblygu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn llwyddiant digwyddiadau mawr rhyngwladol fel Ffeinal Cynghrair Pencampwyr UEFA ac Uwchgynhadledd NATO Cymru 2014, mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru'n cynllunio ymgyrch newydd i ddenu digwyddiadau i fusnesau, er mwyn cadarnhau ei lle ymhellach ar y llwyfan rhyngwladol. 


Stondin Cymru yn y Meetings Show yn Olympia (13-15 Mehefin) yw'r fenter gyntaf yn yr ymgyrch genedlaethol rydym yn ei datblygu.   Yn rhannu stondin Cymru y bydd - ICC Wales, y Celtic Manor Resort, Croeso Caerdydd, Vale Resort, Venue Cymru, Cambria DMC, Call of the Wild, Surf Snowdonia a Fforest. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: 

"Mae gan Gymru hanes clodwiw o gynnal rhai o ddigwyddiadau mawr y byd ac yn dilyn Ffeinal Cygnhrair Pencampwyr UEFA penwythnos diwetha - y digwyddiad mwyaf ym myd y campau yn 2017 - rydyn ni nawr am adeiladu ar y profiad hwnnw i ddenu digwyddiadau busnes i Gymru. 

"Ar hyn o bryd, mae Cymru'n denu llai na 2% o werth busnes cynadleddau a chyfarfodydd y DU gyfan ond mae gennym botensial aruthrol i ddenu digwyddiadau cymdeithasau Prydeinig a rhyngwladol, cyfarfodydd cyhoeddus a thrydydd sector, cyfarfodydd corfforaethol a digwyddiadau datblygu tîm i ganolfannau a chyrchfannau braf y wlad. 

"Byddwn yn sefydlu tîm bychan yn unswydd i ddenu digwyddiadau sy'n gysylltiedig â rhagoriaeth academaidd, gwyddonol a meddygol ynghyd ag â'r prif sectorau a rhanbarthau twf rydym yn eu targedu ar gyfer mewnfuddsoddiad, buddsoddiad uniongyrchol o dramor a datblygu economaidd.  Bydd Cymru'n cael ei llwyfanu fel gwlad hyblyg ac arloesol sydd â'i golygon ar y byd ehangach. Mae synergeddau â sectorau targed fel Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch, Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol ac Ynni yn creu cyfleoedd go iawn i ddenu digwyddiadau busnes i Gymru. 

Fel gwlad fach gysylltiedig, gall Cymru agor drysau i arloeswyr, arbenigwyr diwydiannol, proffesoriaid a gwyddonwyr sydd â gwir ddealltwriaeth o'u meysydd." 

Mae hon yn fenter ar gyfer Cymru gyfan fydd yn lledaenu effeithiau digwyddiadau busnes ledled economi Cymru.  Bydd yn elwa hefyd ar fomentwm ICC Cymru a chyda phenderfyniad VisitBritain i ddychwelyd i'r farchnad digwyddiadau busnes rhyngwladol, daw â rhagor o gyfleoedd eto i Gymru.