Neidio i'r prif gynnwy

Wrth i ddiwydiant twristiaeth Cymru groesawu ymwelwyr yn ystod cyfnod prysur yr haf mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod Cymru'n parhau'n ddewis poblogaidd ar gyfer tripiau undydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae nifer y tripiau undydd gan dwristiaid i Gymru yn ystod y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2017 wedi cynyddu 9% o'i gymharu â'r 12 mis blaenorol, tra bo'r arian a wariwyd wedi cynyddu 34%. 

Yn ystod y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2017, cafwyd 100.7 miliwn o dripiau undydd gan dwristiaid i Gymru, a gwariwyd cyfanswm £4,711 miliwn yn eu sgil. 

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

"Er bod y farchnad dwristiaeth yn hynod gystadleuol ar hyn o bryd mae Cymru mewn sefyllfa gref. Yn 2016 gwelwyd cynnydd o 15% yng nghyfanswm nifer yr ymweliadau â Chymru - gan ystyried tripiau undydd gan dwristiaid, ymwelwyr tramor ac ymweliadau dros nos gan bobl o wahanol rannau o Brydain Fawr. Mae'n newyddion ardderchog fod y farchnad tripiau undydd yn ffynnu ar ddechrau haf 2017. Yn ogystal â hyn, dywedodd 87% o'r rhai a ymatebodd ein harolwg baromedr twristiaeth eu bod yn teimlo'n hyderus ynghylch sut y bydd eu busnes yn perfformio dros yr haf. 

“Byddwn yn dal ati gyda'n hymgyrch i sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd i ddenu ymwelwyr tramor a'r rhai sydd am aros yng Nghymru oherwydd y bunt wan.  Mae ymgyrch marchnata Croeso Cymru yn Llundain wedi bod yn targedu Llundain a De-ddwyrain Lloegr yn ystod yr haf er mwyn ceisio denu pobl Llundain i Gymru yn ystod y Flwyddyn Chwedlau. Mae hyn yn cynnwys sgrin anferth yng ngorsaf Waterloo sy'n tynnu sylw at y gorau o Gymru mewn ffilm sydd wedi'i golygu'n arbennig."