Neidio i'r prif gynnwy

Mae Croeso Cymru wedi cydweithio â VisitBritain a BBC StoryWorks mewn ymgais i ysbrydoli teithwyr o Ogledd America i ymweld â gwledydd a rhanbarthau Prydain.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Gethin Jones, y cyflwynydd teledu, yn hyrwyddo Cymru mewn ffilm fer (dolen allanol) a leolir yng Nghaernarfon drwy siarad am y ffordd y mae Cymru wedi ei ysbrydoli. 

Mae BBC StoryWorks, sef cangen fasnachol BBC Advertising, wedi creu pedair ffilm ar arddull ddogfennol, ddwy funud o hyd yr un, sy’n herio’r syniadau traddodiadol am Brydain. Maen nhw’n cyflwyno’i thirweddau godidog, ei ffasiwn, ei diwylliant a’i hanes o safbwynt modern. Byddant yn cael eu darlledu ar sianel newyddion rhyngwladol fasnachol y BBC, sef BBC World News, i gynulleidfa yn America rhwng mis Hydref 2017 a mis Mawrth 2018. 

Mae’r ffilmiau’n canolbwyntio ar Lundain, Manceinion, yr Alban a Chymru ac mae personoliaeth leol adnabyddus yn cyflwyno pob un. Yn ogystal â Gethin Jones, mae’r ffilmiau yn cynnwys y newyddiadurwr gwyddoniaeth a thechnoleg Dr Shini Somara, y darlunydd Stanley Chow, a’r dylunydd ffasiwn  Siohbhan MacKenzie. Mae’r ‘arwyr lleol’ yn siarad am sut mae eu gwreiddiau Prydeinig wedi eu hysbrydoli, ac mae’r ffilmiau yn dangos rhai o’r profiadau i’w cael ym mhob gwlad neu ranbarth. 

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:   


“Dw i wrth fy modd bod Croeso Cymru wedi cydweithio â VisitBritain i geisio denu mwy o bobl o Ogledd America i ymweld â Chymru. Gogledd America yw un o’n prif farchnadoedd ac rydym am gynyddu nifer yr ymwelwyr o’r farchnad hon yn ogystal â’n cyfran ni ohoni.  Mae’n newyddion gwych bod Gethin yn cymryd rhan fel ein harwr lleol ni, o flaen golygfa ysblennydd Eryri, i ddangos ochr wahanol i Gymru. 

Dywedodd Gethin Jones: 
“Roedd yn bleser cymryd rhan yn yr ymgyrch hon. Dw i’n achub ar bob cyfle i hyrwyddo Cymru ac i ganmol beth sydd ganddi i’w gynnig. Mae cymaint o ardaloedd a lleoedd sydd yn annwyl iawn imi. Pan glywais y bydden ni’n ffilmio yng Nghaernarfon, roeddwn i wrth fy modd, ac fe wnes i gynnig gormod o syniadau efallai.” 

Ariennir y bartneriaeth gan ymgyrch fyd-eang GREAT Llywodraeth y DU ar y cyd â byrddau twristiaeth London & Partners, Marketing Manchester, VisitScotland a Chroeso Cymru, er mwyn dangos beth sydd gan Brydain i’w gynnig fel lle i astudio a gwneud busnes ynddo ac fel lle i ymweld ag ef.

Mae nifer yr ymwelwyr rhyngwladol â Chymru wedi codi yn ystod y cyfnod Ionawr - Mehefin 2017. Roedd 493,000 o ymweliadau dros nos, sef cynnydd o 9% o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2016. Hwn oedd y lefel uchaf a gofnodwyd ers 2008.  Cafwyd 38,500 o deithiau i Gymru o’r Unol Daleithiau yn ystod Ionawr i Fehefin 2017, cynnydd o 11%. 

Gwerth twristiaeth i economi’r DU yw £127 biliwn gan greu swyddi a hybu twf economaidd ar draws ei gwledydd a rhanbarthau.