Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon wedi argymell bod pobl yn edrych o'r newydd ar yr hyn sydd ar gael yn eu hamgueddfeydd lleol y Pasg hwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth ymweld ag Amgueddfa fywiog Ceredigion yn Aberystwyth, canmolodd yr Arglwydd Elis-Thomas y rôl y mae amgueddfeydd lleol yn ei chwarae yn eu cymunedau lleol a’u gwaith yn hybu twristiaeth.

Mae amgueddfeydd lleol yn  defnyddio mwy a mwy o’u dychymyg wrth gynnig gwasanaethau i ymwelwyr. Eleni, drwy gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, a thrwy weithio mewn partneriaeth â sefydliadau Kids in Museums a Get it Loud, mae Amgueddfa Ceredigion wedi ychwanegu gigiau cerddorol arloesol at ei rhaglen, sy'n cynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau. Difyrrwyd tua 180 o bobl yn yr amgueddfa gan y gantores lwyddiannus Gwenno. Roedd naws arbennig i’r amgueddfa a fu’n neuadd gerddoriaeth ac yn sinema yn y gorffennol. 

Yn dilyn perfformiadau llwyddiannus yn Abertawe a Bargoed gan berfformwyr o'r radd flaenaf, dyma'r drydedd gig eleni a gynhaliwyd mewn amgueddfeydd a llyfrgelloedd Cymru lle y gwerthwyd pob tocyn. Mae Gwenno wedi cael adolygiadau gwych yn y wasg gerddoriaeth am ei halbwm cyntaf – Y Dydd Olaf, ac enillodd y wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2015, ac am ei halbwm Le Kov . 

Yn 2016 gorffennwyd adnewyddu'r Amgueddfa, sydd bellach yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau amrywiol – gan gynnwys ffilmiau, dosbarthiadau ioga, darlithoedd, gweithdai, a hyd yn oed nosweithiau cysgu draw ar gyfer ymwelwyr ifanc. Yn ddiweddar cynhaliwyd rhaglen boblogaidd Radio 4 Any Questions yno. Mae'r Amgueddfa hefyd yn gartref i Glwb Archeolegwyr Ifanc yn ogystal â Phanel Ieuenctid Haneswyr Ceredigion, lle y mae pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed yn gallu dysgu mwy am eu treftadaeth leol, a'i hybu. Mae aelodau o'r panel wedi cael cyfle i ddysgu sgiliau newydd am farchnata digidol a chynhyrchu digwyddiadau drwy gyfrannu at gig Gwenno, a byddant yn creu ffilm ddogfen fer am y digwyddiad. 

Dywedodd y Gweinidog ar ôl y digwyddiad:  

“Mae amgueddfeydd lleol wir yn cynnig cymaint i ymwelwyr a chymunedau lleol fel ei gilydd. Mae Amgueddfa Ceredigion yn enghraifft ddisglair o amgueddfa leol ddynamig sy'n denu pobl o bob oedran. Mae gigiau byw yn ffordd arall o ddenu cynulleidfaoedd newydd.”

Dywedodd Sarah Morton, Swyddog Cynaliadwyedd Amgueddfa Ceredigion:  

“Mae gweithio gyda phlant Get it Loud a Kids in Museums  wedi rhoi llawer o fwynhad inni. Ar wahân i'r bri o gynnal gig Gwenno yn ystod y dydd, mae'r ffordd y mae Get it Loud wedi cefnogi aelodau o Banel Ieuenctid Haneswyr Ceredigion wedi bod yn werthfawr. Mae mor gyffrous gweld yr amgueddfa yn dod yn fyw a chroesawu cynulleidfa hollol wahanol.”

Dywedodd Alison Bowyer, Cyfarwyddwr Gweithredol Kids in Museums: 

“Mae Kids in Museums a Get It Loud in Libraries wedi bod wrth eu boddau i fod yn bartner yn y gwaith hwn. Mae cael cyfle i ganolbwyntio ar rai o'r pethau gwych sydd ar gael yn amgueddfeydd Cymru, i hoelio sylw  ar gerddoriaeth Cymru, ac i groesawu cynulleidfaoedd newydd yn ein hamgueddfeydd a’n llyfrgelloedd yn wych. At ei gilydd, rydym yn falch iawn o’r ymateb a gafwyd i’r gigiau ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i gefnogi cerddoriaeth fyw mewn amgueddfeydd a llyfrgelloedd yn y dyfodol.”