Neidio i'r prif gynnwy

Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis Thomas ar ymweliad yn ddiweddar ag Amgueddfa Criced Cymru CC4 i gyflwyno tystysgrif.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Amgueddfa wedi derbyn Achrediad Llawn fel Amgueddfa - gan ei gwneud yr amgueddfa sydd wedi'i hachredu'n llawn gyntaf yn y D.U.

Wedi ei hagor yn 2012, mae'r Amgueddfa yn dathlu hanes hir a balch criced ledled Cymru gan ddefnyddio cyfres o baneli gwybodaeth, blychau arddangos a chyfryngau rhyngweithiol. Yn wir, golygodd yr olaf bod yr Amgueddfa wedi ennill Gwobr Arloesi Kieran Hegarty yng Ngŵyl Ffilm a'r Cyfryngau Celtaidd 2014 am ei defnydd o ddelweddau archif mewn cyfres o gyflwyniadau digidol a ffilm.

Yn ystod ei ymweliad gwelodd y Gweinidog sut y mae'r Amgueddfa yn tynnu sylw at y prif ddyddiadau a'r bobl yn hanes criced yng Nghymru, ac yn dathlu llwyddiannau Clwb Criced Morgannwg.   Mae digwyddiad arbennig wedi'i gynllunio yn yr Amgueddfa yn ystod mis Tachwedd ar y cyd â'r Lleng Prydeinig Frenhinol i arddangos y gwaith sydd wedi'i wneud gydag ysgolion lleol i gofio'r rhai hynny a ymladdodd, ac a fu farw, yn ystod y Rhyfel Mawr.

Yn ystod ei ymweliad, bu'r Gweinidog hefyd yn siarad â disgyblion Ysgol Pencae, Caerdydd, un o nifer o grwpiau ysgol sy'n cael eu croesawu i'r Amgueddfa bob blwyddyn. 

Meddai Andrew Hignell, Curadur yr Amgueddfa ac Archifydd Clwb Criced Morgannwg:

"Rydyn ni'n falch iawn o dderbyn statws Achrediad Llawn.

"Mae wedi bod yn daith hir ers inni dderbyn y gyfran gyntaf o gymorth grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Croeso Cymru, ond bu'n daith fuddiol iawn.

"Mae'r ffaith ein bod yr amgueddfa griced achrededig gyntaf yn y DU yn dystiolaeth o ymdrechion y tîm ffyddlon ac ymroddedig o wirfoddolwyr sydd wedi helpu'n ddiflino gyda gofal a chadwraeth y casgliad yng Ngerddi Sophia, ac yn y stordy yn Archifau Morgannwg, y labelu a thynnu lluniau gwrthrychau, yn ogystal â chreu catalog rhyngweithiol o eitemau fydd, yn y dyfodol gweddol agos, ar gael i ymwelwyr ac ar-lein."

Mae'r Amgueddfa wedi ehangu ei gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Yn ogystal â staff yn Adran Gymunedol Criced Morgannwg, arweinwyr y daith o amgylch y Stadiwm ac eraill yn Criced Cymru, bydd yr Amgueddfa wedi croesawu dros 12,500 o bobl ifanc i'r safle yng Ngerddi Sophia yn ystod 2018. Mae cynlluniau cyffrous i godi nifer yr ymweliadau gan ysgolion ymhellach, yn ogystal â phrosiectau yn defnyddio gwrthrychau i gysylltu â phobl sydd â phroblemau iechyd meddwl a lles.

Meddai yr Arglwydd Elis-Thomas: 

"Hoffwn longyfarch y tîm yn Amgueddfa Criced Cymru CC4 - ac roedd yn bleser cyhoeddi'r Achrediad hwn yn ffurfiol sy'n gwneud yr amgueddfa hon yn lle arbennig iawn - ac unigryw yn y DU.   Gall Ymwelwyr i'r Amgueddfa ddysgu mwy am hanes y gêm yn erbyn cefndir gwych y stadiwm bresennol - a hefyd chwarae ychydig o griced yn ystod eu hymweliad.  Mae'r Amgueddfa hefyd yn lle gwych i roi gwybodaeth a hefyd ysbrydoli y genhedlaeth nesaf o chwaraewyr."

Mae'r cynllun Achredu ar gyfer yr Amgueddfa, sydd bellach yn ei 30ain blwyddyn, yn gynllun sy'n cael ei ystyried yn gynllun gwerthfawr gan amgueddfeydd, ac wedi trawsnewid y sector, a dod â sawl mantais.  Wedi cyrraedd y garreg filltir bwysig hon, mae'r cynllun wedi ei hail-lansio i fod yn gliriach, yn symlach ac yn groesawgar.