Neidio i'r prif gynnwy

Mae Chwaraeon Cymru wedi cael £5m yn ychwanegol er mwyn helpu i ddarparu amrywiaeth o gyfleusterau chwaraeon ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd arian yn cael ei ddyrannu i Chwaraeon Cymru er mwyn iddo fedru symud yn gyflym a chyfrannu at brosiectau ledled y wlad sy'n barod i dorri'r dywarchen gyntaf. Bydd y cyllid yn cael ei ddyrannu mewn ffordd a fydd yn sicrhau ei fod yn cael ei rannu ar draws ardaloedd daearyddol Cymru ac ar draws mathau gwahanol o chwaraeon. Bydd hefyd, pryd bynnag y bo modd, yn cefnogi prosiectau cydweithredol sy'n cynnwys mwy nag un math o chwaraeon.

Nod y buddsoddiad cyfalaf fydd cefnogi “Gweledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru”, gan ganolbwyntio ar brosiectau cydweithredol a fydd yn:

  • Gwella ac yn diogelu cyfleusterau allweddol sy'n bodoli eisoes ac sy'n cefnogi anghenion cymunedau lleol
  • Buddsoddi mewn lleoedd newydd a gwahanol a fydd yn diwallu anghenion cymunedau lleol
  • Creu sector chwaraeon mwy cadarn a chynaliadwy.

Mae'r cyllid newydd hwn yn ychwanegol at y £5 miliwn a gyhoeddwyd yn yr haf ar gyfer y Gronfa Iach ac Egnïol newydd – partneriaeth rhwng Chwaraeon Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru.

Mae'r buddsoddiad newydd o £5 miliwn ar gyfer cyfleusterau chwaraeon yng Nghymru yn dangos bod ymrwymiad cadarn i roi hwb i’r gwaith o ddarparu cyfleusterau a fydd yn helpu i greu Cymru egnïol. Hwn hefyd yw cam cyntaf y buddsoddiad sy'n cael ei wneud o ganlyniad i'r argymhellion a deilliodd o'r adolygiad o gyfleusterau chwaraeon a gynhaliwyd yn gynharach eleni.

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon:

“Mae'r cyfleusterau cywir − boed yn neuadd lle byddwch chi'n cael dosbarthiadau neu'n gae lle byddwch chi'n chwarae − yn cael effaith fawr ar brofiad yr unigolyn, ac ar ba mor debygol y mae'r unigolyn hwnnw o gymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd.

"Mae angen amlwg i sicrhau bod rhagor o gyfleusterau o'r radd flaenaf yn cael eu darparu ledled y wlad, ond rhaid inni hefyd ystyried sut byddai'r rheini o fudd i gymunedau lleol, yn ogystal ag i athletwyr elít.

"Allwn ni ddim pwysleisio digon pa mor bwysig oedd buddugoliaeth Geraint Thomas OBE yn y Tour de France. Mae wedi cael cryn effaith ym mhob cwr o Gymru yn barod − rydyn ni wedi gweld cynnydd mawr yng ngwerthiant beiciau a bydd y ffaith ei fod wedi ennill gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC yn ychwanegu at yr effaith honno − felly rydyn ni a Chwaraeon Cymru yn barod i weithredu'n gyflym i gynnal y momentwm sydd wedi'i greu ac i hyrwyddo beicio."

Ychwanegodd Sarah Powell, Prif Swyddogol Gweithredol Chwaraeon Cymru:

“Rydyn ni wedi cael sawl cais yn barod oddi wrth bartneriaid allweddol a allai elwa ar y cyhoeddiad cyffrous hwn ac rydyn ni'n awyddus i fwrw 'mlaen â'r ceisiadau hynny cyn gynted â phosibl. Bydd sawl prosiect ar draws Cymru i osod meysydd chwarae 3G (sy'n rhan o'r cynllun cydweithredu cyffrous a llwyddiannus sy'n bodoli eisoes) yn elwa ar unwaith, ac felly hefyd rai prosiectau beicio.

"Yna, yn gynnar yn 2019, byddwn ni'n mynd ati i ddatblygu'r meini prawf a'r broses ymgeisio ar gyfer gweddill y cyllid. Mae gan chwaraeon allu rhyfeddol i gynnig manteision eang i'n cymdeithas ac rydyn ni'n hynod falch bod Llywodraeth Cymru a'r Gweinidog wedi rhoi'r cyfle inni fuddsoddi ar y cyd mewn datblygu cyfleusterau er mwyn hyrwyddo'r gwaith hwnnw."