Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas wedi dechrau Blwyddyn Ddarganfod 2019 gydag ymweliadau i brofiadau twristiaeth newydd yng Ngorllewin Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y bedwaredd flwyddyn thematig hon yn rhoi rhesymau da iawn i bobl ymweld â Chymru gan gael eu hannog i ail-ddarganfod Cymru a dod o hyd i rhywbeth newydd am Gymru ac amdanynt eu hunain.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog: 

“Trwy ddod ynghyd a gweithio mewn partneriaeth, mae'r blynyddoedd thematig wedi rhoi llais cryf i Gymru - mewn marchnad gystadleuol tu hwnt. Fe wyddom bod ein hymgyrchoedd blynyddoedd thematig yn cynhyrchu dros £350 y flwyddyn i'r economi.

“Rydyn ni’n gwybod mai cryfderau Cymru yw antur, diwylliant a'r awyr agored, a nod ein blynyddoedd thematig yw atgyfnerthu'r cryfderau hynny. Byddwn yn dychwelyd at y themâu hyn dro ar ôl tro i sicrhau bod ein negeseuon yn glir ac yn gyson ynghylch yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig.  Bydd hyn yn bwysicach nag erioed wrth inni addasu i'r heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau.

"Yn 2019 rydym am annog ein hymwelwyr i ddarganfod Cymru o'r newydd, darganfod rhannau newydd o Gymru a rhoi cynnig ar brofiadau awyr agored, anturus a diwylliannol ledled y wlad fydd yn ein cyfoethogi. Rydym wedi cael dechrau gwych i'r flwyddyn gyda'r Sunday Times Magazine yn dewis Cymru fel un o sêr y byd teithio yn 2019, ynghyd â llefydd fel Moroco a Gwlad yr Iâ, Georgia, Portiwgal, Twrci, Sri Lanka, Costa Rica, Croatia a De Affrica.

"Mae Cymru yn llawn o gorneli cudd; yn ogystal ag atyniadau o safon uchel, mae'r prosiectau hyn rwyf wedi eu gweld  yn ffordd wych i bobl ddarganfod mwy am Gymru, a dod o hyd i gornel gudd a chael profiad newydd."

Heddiw, ymwelodd y Gweinidog â'r tîm yn Fforest Cilgerran sy'n dathlu 12 mlynedd ers dechrau'r busnes. I nodi hynny, maen nhw wedi cyhoeddi prosiect newydd ar gyfer 2019, sydd ar y cyd gyda’r Eglwys yng Nghymru ac yn  cael ei gefnogi drwy Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth Llywodraeth Cymru.

Bydd prosiect SpiritCymru yn creu rhwydwaith darganfod, gan gysylltu capeli ac eglwysi yn y Gorllewin drwy siwrneiau beicio unigryw a chyfleoedd i aros dros nos mewn adeiladau capeli ac eglwysi hanesyddol anghysbell a fydd yn rhoi blas ar fywyd yng nghefn gwlad a chwedlau Cymru.

Dywedodd James Lynch o Fforest: 

"Rydyn ni'n gwybod bod rhyw 800 o gapeli ac eglwysi yng nghymunedau gwledig ac arfordirol Cymru ac mae llawer ohonynt yn wynebu dyfodol ansicr. Bydd SpiritCymru yn dathlu ac yn hyrwyddo gwerthoedd yr adeiladau hyfryd hyn ac yn darparu model cynaliadwy newydd er mwyn sicrhau bod cymunedau yn dal i'w defnyddio.”

Dywedodd Alex Glanville, Pennaeth gwasanaethau eiddo'r Eglwys yng Nghymru: 

"Dyma gyfle cyffrous i weithio mewn partneriaeth â fforest i ddod o hyd i bwrpas newydd, arloesol ar gyfer eglwysi sydd wedi eu cau. Mae'r adeiladau hyn yn parhau i fod yn leoedd arbennig ac fe fydd cynulleidfa newydd yn gallu eu darganfod drwy SpiritCymru.”

Gosodiadau yw'r podiau cysgu unigryw, yn hytrach na thrawsnewid adeilad. Maent yn ystafelloedd cyfforddus, gyda phopeth sydd eu heisiau ynddynt, yn seiliedig ar egwyddor Siapaneaidd / Sgandinafaidd ac fe'u dyluniwyd i ddiwallu anghenion beicwyr gan ddarparu llety clud a chyfforddus ar ddiwedd diwrnod hir o anturiaethau.  Bydd y teithiau yn cychwyn a gorffen yn fforest, Cilgerran gyda archebion yn cael eu derbyn yn yr Hydref.  

Aeth y Gweinidog i fenter newydd yng Ngheredigion. Tŷ Cwch, Cwmtydu yw’r llety cyntaf yng Nghymru ar gyfer gweithgareddau awyr agored sydd wedi’u gwneud o gynwysyddion morgludo yn gyfangwbl. Ar gyfer Blwyddyn Ddarganfod, bydd Tŷ Cwch yn cydweithio â chyrsiau darganfod wedi’u teilwra yn y Gwanwyn. Mae gan y llety arloesol hwn achrediad glampio sicrhau ansawdd Croeso Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar www.Tycwch.wales

Meddai Nigel Humphrey, o Ty Cwch: 

"Mae'r Flwyddyn Ddarganfod yn thema briodol iawn gyda'r cynnydd ym mhoblogrwydd gweithgareddau awyr agored. Gallai hyn fod ar gyfer grwpiau o deuluoedd sydd eisiau gweithgareddau wedi'u trefnu neu i ddianc oddi wrth bopeth a mwynhau cefn gwlad. Mae arfordir Cymru yn hynod addas i'r ddau. Wrth gydweithio â'n partneriaid ICY UK rydym yn edrych ymlaen at gynnal cyrsiau darganfod y flwyddyn nesaf."

Mae ymgyrch ryngwladol aml-gyfrwng ar y thema darganfod yn rhedeg drwy gydol 2019. Mae’r ymgyrch ar blatfformau digidol, teledu, ac ar-alw, ac yn y prif ganolfannau teithio yma yng Nghymru o fis Ionawr - gyda'r prif ymgyrch farchnata ar draws gweddill y DU yn digwydd ym mis Mawrth yn ystod y prif gyfnodau archebu gwyliau. Mae’r pwyslais ar annog pawb i ddod o hyd i'w profiad eu hunain yng Nghymru.