Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams wedi croesawu ffigurau newydd sy’n dangos bod absenoldeb mewn ysgolion cynradd yng Nghymru wedi gostwng yn ystod y degawd diwethaf (dydd Iau 15 Rhagfyr).

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ôl ystadegau swyddogol a ryddhawyd heddiw gwelwyd bod y gyfradd ar gyfer absenoldeb yn gyffredinol yn 2015/16 wedi aros o gwmpas 5.1% a bod y ffigurau wedi bod yn gostwng ers 2006/07.

Cyfradd absenoldeb anawdurdodedig mewn ysgolion cynradd ar hyn o bryd yw 1.1%. Dim ond 1 o bob 70 disgybl oedd yn absennol yn gyson a salwch oedd y rheswm mwyaf cyffredin am yr absenoldeb.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Rydyn ni’n croesawu’r ffigurau hyn gan eu bod yn dangos gostyngiad mewn absenoldeb yn ein hysgolion cynradd yn ystod y degawd diwethaf.

“Dwi am ddiolch disgyblion, rhieni ac athrawon am eu gwaith caled yn hyn o beth. Y gwir amdani yw bod mynd i’r ysgol yn rheolaidd ac yn gyson yn hanfodol os yw ein pobl ifanc am gyflawni eu potensial llawn.

“Er gwaetha’r gwelliant rydyn ni wedi’i weld, allwn ni ddim â bod yn rhy fodlon â’n hunain a byddwn yn parhau i gymryd camau i wella presenoldeb yn ein hysgolion.”