Neidio i'r prif gynnwy

Gallai newidiadau pellach i sut y caiff arian ei fuddsoddi yn Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif helpu awdurdodau lleol i reoli'r pwysau ar eu cyllidebau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Golygai’r newidiadau fod Llywodraeth Cymru yn cynyddu’r gyfran o gyllid a roddwyd drwy'r Model Buddsoddi Cyfnewidiol (MIM) o 75% i 81%. Golygai hyn bydd awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach sydd yn defnyddio’r MIM ond yn talu 19% tuag at gostau parhaus blynyddol ar gyfer dyluniad, adeiladu ac ariannu, a chynnal a chadw'r cyfleusterau newydd.

Dyma'r cam olaf mewn cyfres o newidiadau i'r cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif. Bydd y newidiadau hyn yn caniatáu i awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach wneud penderfyniadau gwell a fwy gwybodus am sut y maent yn buddsoddi mewn adeiladau ysgolion a cholegau yn yr hir dymor.

Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams:

"Mae ein Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yn cynrychioli'r buddsoddiad mwyaf yn ein hysgolion a'n colegau ers y 1960au.

"Bydd newid y gyfradd ymyrryd yn rhoi cefnogaeth hanfodol i'n partneriaid darparu yn yr amserau anodd hyn ac yn ein helpu i gyrraedd ein nod o greu amgylcheddau dysgu cynaliadwy ledled Cymru, sydd hefyd yn darparu ar gyfer anghenion ehangach ein cymunedau."

Dywedodd y Gweinidog dros Gyllid a’r Trefnydd, Rebecca Evans:

"Mae hwn yn gyfle da i helpu i drawsnewid amgylcheddau dysgu ledled Cymru. Bydd y newidiadau hyn yn helpu i ryddhau cyllid ychwanegol mewn awdurdodau lleol yn yr amserau anodd hyn."