Neidio i'r prif gynnwy

Mae Kirsty Williams wedi cyhoeddi y bydd athrawon yn cael mwy o ddewis yn fuan o ran y cyfarpar digidol y maent yn eu defnyddio, o ganlyniad i gyflwyno Google for Education.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Datblygwyd y feddalwedd newydd yn dilyn adborth gan ysgolion, a bydd ar gael drwy Hwb - y llwyfan dysgu digidol ar gyfer Cymru sy'n darparu amrywiaeth o gyfarpar ac adnoddau digidol dwyieithog a ariennir yn ganolog. 

Mae'r ystadegau diweddaraf ar gyfer Hydref 2017 yn dangos y mewngofnodwyd 736,813 o weithiau yn ystod y mis - cynnydd o 55% o gymharu â Hydref 2016. Mae hyn yn cyfateb i fwy na 23,000 o weithiau bob dydd ar gyfartaledd.

Yn ogystal â chyhoeddi'r cynlluniau i gyflwyno Google for Education, rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet ddiweddariad ar agweddau eraill o'r rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol.

Roedd hyn yn cynnwys y cynnydd o ran buddsoddi ym mand eang ysgolion - ymrwymiad yn Symud Cymru Ymlaen i ddarparu band eang cyflym iawn i bob ysgol yng Nghymru.

Bydd hyn yn darparu cysylltiadau ffeibr ar gyfer 343 o ysgolion ledled Cymru drwy rwydwaith Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus. Bydd yn sicrhau bod amrywiaeth o gyfarpar ac adnoddau ar gael i ysgolion drwy Hwb, yn ogystal â chefnogi'r cwricwlwm newydd. 

Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet heddiw fod dros draean o'r ysgolion a dargedwyd bellach wedi cael cysylltiadau cyflymach.

Yn ogystal, bydd canllawiau'n cael eu cyhoeddi'n fuan i helpu ysgolion i ddeall sut all trafferthion gyda'r rhwydwaith lleol effeithio ar eu gallu i gysylltu â'r rhyngrwyd, a sut y gallant wneud y defnydd gorau o'r buddsoddiad o raglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol.

Dywedodd Kirsty Williams:

"Rwyf eisiau i'n hathrawon allu defnyddio'r cyfarpar a'r adnoddau digidol gorau a'r ddarpariaeth orau o fand eang cyflym iawn.

"Rydym wedi gwrando ar yr adborth sydd wedi dod i law gan ysgolion ac rwy'n falch iawn y byddwn yn cyflwyno Google for Education yn 2018 o ganlyniad i'r adborth hwn.

"Bydd hyn yn darparu ystod ehangach o lawer o gyfarpar ac adnoddau digidol i'n hathrawon ac yn arwain at fwy o gydweithio a chyfathrebu yn y dosbarth."

O ganlyniad i'r adborth parhaus, ni fydd Llywodraeth Cymru'n adnewyddu llwyfan rhith-ddysgu Hwb+ pan fydd y contract presennol yn dod i ben ym mis Awst 2018.

Byddwn yn cysylltu ag ysgolion, awdurdodau lleol a'r consortia addysg rhanbarthol i sicrhau eu bod yn barod i fanteisio ar y cyfarpar digidol newydd ac yn gallu trosglwyddo o lwyfan Hwb+ y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Liz Sproat o Google for Education:

"Rydym yn llongyfarch Llywodraeth Cymru am eu hymrwymiad i ddarparu'r addysg orau bosibl i ddysgwyr ar draws Cymru. Rydym yn falch iawn y bydd adnoddau addysg Google ar gael i ysgolion drwy lwyfan Hwb ac edrychwn ymlaen at eu cefnogi ar eu taith â ni."