Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams yn ymateb i adroddiad i gyfraniad dinesig Prifysgolion

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daw’r argymhellion mewn adroddiad gan WCPP sy’n rhan o'i hadolygiad o sut y mae Prifysgolion Cymru yn cyflawni’u cenhadaeth ddinesig trwy gyfrannu at eu cymunedau lleol.

Wrth siarad yn y lansiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg:

"Mae'r adroddiad yn cynnig her adeiladol i mi a'r Llywodraeth, ond hefyd i'r sector ac arweinyddiaeth prifysgolion yng Nghymru.

"Mae ein sector prifysgolion yn gryf, gyda lefelau uchel o foddhad myfyrwyr ac effaith ymchwil ragorol, lle mae Cymru'n perfformio'n well na'r holl wledydd eraill yn y DU.

"Mae gweithio gyda'n gilydd ar wneud y gorau o gyfraniad dinesig yn ymdrech genedlaethol Gymreig, lle gallwn ni fod yn arweinyddion rhyngwladol.

"Rwy'n gobeithio bydd y papur polisi a gyhoeddir heddiw yn helpu i roi mwy o fomentwm ar gyfer dadlau a datblygu polisi yng Nghymru ar gyfraniad dinesig, a bod Prifysgolion, yn unigol ac ar y cyd, yn awr am gyflwyno eu syniadau eu hunain."