Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cyfle i fyfyrwyr o’r 11 canolfan Seren ledled Cymru wneud cais i fynychu’r ysgol haf bedwar diwrnod o hyd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd detholiad o fyfyrwyr disgleiriaf Cymru yn cael mynychu ysgol haf bwrpasol yng Ngholeg yr Iesu ym mis Awst eleni, diolch i bartneriaeth rhwng Coleg yr Iesu Prifysgol Rhydychen a Rhwydwaith Seren Llywodraeth Cymru.

Bydd cyfle i fyfyrwyr o’r 11 canolfan Seren ledled Cymru wneud cais i fynychu’r ysgol haf bedwar diwrnod o hyd, lle bydd cyfle iddyn nhw gael blas ar fywyd fel myfyriwr a mynychu darlithoedd ar ddemograffeg, deallusrwydd artiffisial, yr hinsawdd, masnach, gwleidyddiaeth a llenyddiaeth.Gwneir y cyhoeddiad heddiw yn ail gynhadledd flynyddol Tu Hwnt i’r Cwricwlwm yn y canolbarth, gan Weinidog yr Iaith Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Llywodraeth Cymru, a chredir mai dyma’r ysgol haf gyntaf erioed i’w chynnal sy’n targedu myfyrwyr o Gymru yn unig.Gan siarad yn y digwyddiad, meddai Alun Davies Gweinidog yr Iaith Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Llywodraeth Cymru:
“Mae codi dyheadau a lefelau cyflawni disgyblion ysgol Cymru er mwyn eu helpu i gyflawni eu potensial academaidd yn flaenoriaeth barhaus i Lywodraeth Cymru, ac mae Rhwydwaith Seren yn chwarae rôl hanfodol tuag at wireddu’r uchelgais hwn.
“Ers ei sefydlu yn 2015, mae’r Rhwydwaith wedi prysur dyfu’n gyfrwng gwerthfawr a chydnabyddedig sy’n helpu tua 2000 o’r disgyblion disgleiriaf yng Nghymru i sianelu a hogi eu sgiliau academaidd.

“Mae cyhoeddiad heddiw yn ychwanegu budd ymarferol arall i fyfyrwyr. Drwy roi’r cyfle i ddisgyblion mwyaf academaidd ddisglair Cymru i gael blas ar rai o sefydliadau academaidd gorau’r byd, rydyn ni’n dangos bod rhagoriaeth addysgol o fewn eu gafael, ac rydyn ni’n rhoi’r cymorth ymarferol a’r arweiniad sydd eu hangen arnynt i wneud yn siŵr eu bod yn cyrraedd y brig.

Yn ôl yr Athro Syr Nigel Shadbolt, Prifathro Coleg yr Iesu, Rhydychen:

“Mae Coleg yr Iesu yn falch tu hwnt o’i berthynas hirhoedlog â Chymru, sy’n mynd yn ôl i ddechreuadau’r Coleg ym 1571. Bydd y fenter newydd yn helpu i sicrhau ein bod yn croesawu cenedlaethau pellach o Gymry dawnus i Rydychen.

“Mae Rhwydwaith Seren yn gweithio ar y cyd â sefydliadau yn cynnwys Ymddiriedolaeth Sutton i nodi cyfleoedd a chymorth i fyfyrwyr Seren fel y gallant wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol. Mynychodd Morgan Cronin, o ganolfan Seren Merthyr-RhCT ysgol haf a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Sutton yn Yale, ac mae ganddo nawr gynnig diamod i astudio yno.”