Neidio i'r prif gynnwy

Gwaith ar droed i gyflwyno'r newid mawr sydd ei angen o ran cefnogaeth ym maes iechyd emosiynol ac iechyd meddwl mewn ysgolion

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel rhan o ymdrech amlasiantaethol, mae rôl bwysig gan ysgolion wrth geisio cyflawni’r nod uchelgeisiol o feithrin poblogaeth o blant a phobl ifanc yng Nghymru sy’n emosiynol gryf ac yn iach yn feddyliol.

Byddai ymdrin â hyn ar lefel 'ysgol gyfan' yn sicrhau bod iechyd a lles meddyliol yn dod yn rhan ganolog o'r ffordd mae ysgolion yn gweithio a bydd yn cyffwrdd â sawl agwedd ar fywyd ysgol. Golyga hyn y bydd ethos yr ysgol yn cefnogi iechyd a lles meddyliol ehangach dysgwyr a fydd yn ei dro yn helpu i osgoi problemau eraill rhag datblygu neu waethygu, gan gynnwys problemau yn ymwneud ag iechyd meddwl.

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, a'r Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, heddiw y bydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol ar y Cyd yn cael ei sefydlu i sbarduno'r gwaith yn ei flaen.

Mae gan ysgolion rôl glir i’w chyflawni o ran atal problemau iechyd meddwl a helpu gydag ymyraethau cynnar. Bydd y grŵp yn edrych ar y cwricwlwm newydd sy’n cael ei ddatblygu ac yn ystyried materion fel hyfforddi staff.

Bydd y grŵp newydd yn edrych i weld sut y gellir dwyn ynghyd yr amryw weithgareddau sydd eisoes ar waith; bydd yn tynnu sylw at fylchau yn y ddarpariaeth; a bydd yn sicrhau bod egni ac adnoddau yn cael eu targedu fel y gallant gael yr effaith fwyaf bosibl.

Ffurfiwyd y grŵp mewn ymateb i adroddiad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol, Cadernid Meddwl, a dyma fydd sail ei waith. Roedd yr adroddiad yn galw am i les a chryfder emosiynol a meddyliol gael ei ddatgan yn flaenoriaeth genedlaethol, ac roedd yn cynnwys argymhellion ar gyfer gweithredu hyn.

Caiff ei gadeirio ar y cyd gan Ysgrifenyddion y Cabinet a bydd yn dwyn ynghyd y bobl hynny sy'n gweithio ym meysydd addysg ac iechyd yn ogystal â'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector ehangach. Mae Lynne Neagle AC, cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, wedi cytuno i arsylwi gwaith y grŵp a bydd yn cyfrannu ato hefyd.

Bydd gweithdy a fydd yn cwmpasu nifer o asiantaethau a phroffesiynau yn cael ei gynnal heddiw i weld beth y gellid ei gynnwys ar lefel 'ysgol gyfan' a lle mae'r bylchau yn y ddarpariaeth sydd ar gael ar hyn o bryd. Bydd canfyddiadau'r gweithdy yn cael eu defnyddio'n sail i waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen.

Bydd gwaith y grŵp hefyd yn cael ei lywio gan adroddiad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cadernid Meddwl, sydd wedi galw ar i les a chadernid emosiynol a meddyliol gael ei ddynodi'n flaenoriaeth genedlaethol ac sydd wedi cyflwyno argymhellion ar sut i roi hyn ar waith. 

Dywedodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg:

"Mae iechyd emosiynol ac iechyd meddyliol ein pobl ifanc yn holl bwysig a dyna pam rydyn ni am sicrhau eu bod yn cael pob cefnogaeth - drwy bob cam o'u haddysg - er mwyn bod yn gadarn o safbwynt emosiynol a meddyliol, yn hyderus ac, yn bennaf oll, yn hapus.

"Mae gwaith eisoes ar droed i ddarparu cymorth proffesiynol penodol i ysgolion gan gynnwys ein cynllun peilot o dan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS). Yr hyn ry'n ni'n sôn amdano yn yr achos yma, fodd bynnag, yw cyflwyno ffordd o weithio sy'n mynd ar draws holl agweddau ysgolion, sy'n cysylltu gweithgareddau sydd eisoes ar waith ac yn tynnu sylw at fannau lle gallwn fynd ymhellach ac yn gyflymach.

"Rydyn ni am i ysgolion fod yn esiampl yn y ffordd y maen nhw'n hyrwyddo iechyd meddwl a lles ac mae'r Grŵp hwn yn ddechreuad yn y broses a fydd yn ein galluogi i gyrraedd y nod."

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:

"Yn 2016, fe wnaeth Llywodraeth Cymru bennu iechyd meddwl fel un o'i phum blaenoriaeth am ein bod yn cydnabod bod iechyd meddwl da yn gwbl hanfodol.
 
“Rydyn ni'n cydnabod yn llwyr bwysigrwydd cefnogi lles emosiynol ein plant a phobl ifanc. Mae gan ysgolion rôl hynod bwysig yn sylwi ar y problemau'n gynnar ac yn helpu i alluogi plant a phobl ifanc i ymdopi â'r straen o dyfu i fyny.

"Dyna felly bwrpas y cyhoeddiad heddiw. Gyda'i gilydd - y gwaith rydyn ni'n ei gyhoeddi heddiw a hefyd waith ein partneriaid ar draws y sector statudol a'r trydydd sector, mae gennym y gallu i gyflwyno'r newid mawr rydyn ni i gyd am ei weld. Bydd yn helpu i sicrhau y bydd ein plant a'n pobl ifanc yn cael y cymorth cywir, yn y lle cywir ar yr adeg gywir a fydd yn eu galluogi i dyfu'n iach a gydag anogaeth gan roi iddynt y cyfle gorau posibl i gyflawni eu gwir botensial."

Dywedodd Lynne Neagle, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg:

“Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad i sefydlu'r grŵp pwysig hwn mewn ymateb i waith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a’n hadroddiad diweddar ar iechyd emosiynol a meddyliol plant yng Nghymru. Fel pwyllgor, rydyn ni’n awyddus i gynnal momentwm y gwaith y mae angen ei wneud yn y maes hwn, ac rwy’n edrych ymlaen at helpu i lunio’r cylch gorchwyl terfynol erbyn diwedd y mis.

“Mae cydweithio ar draws sectorau a phroffesiynau yn allweddol, ac fel cyfrannwr annibynnol at waith y grŵp, fe fyddaf yn gwneud fy ngorau glas i sicrhau bod y gwaith ar lefel ‘ysgol gyfan’ yn digwydd yng nghyd-destun ‘system gyfan’ ehangach i sicrhau iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc.”