Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd Ysgrifennydd Cabinet Cymru dros Faterion Gwledig a’r Amgylchedd a Gweinidog Amaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon, gyfarfod  i drafod goblygiadau canlyniad refferendwm yr UE.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae polisïau’r amgylchedd ac amaethyddiaeth bron iawn wedi’u datganoli’n llwyr.  Yn y cyfarfod, cytunodd y Gweinidogion ei bod yn hanfodol bwysig bod y gwledydd datganoledig yn cael cymryd rhan lawn yn y trafodaethau ar delerau’r DU ar gyfer gadael yr UE ac na ddylai gadael arwain at leihau’u cyfrifoldebau datganoledig am greu rhaglenni a pholisïau yn y dyfodol. 

Gwnaeth y ddwy alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i anrhydeddu’i haddewid y caiff y ddwy wlad gyllid domestig yn gyfnewid am golli cyllid yr UE, gan bwysleisio hefyd bwysigrwydd cadw’r mynediad at y Farchnad Sengl.

Meddai Lesley Griffiths:

“Mae canlyniad y refferendwm wedi creu ansicrwydd yn yr holl wledydd datganoledig.  Roedd y cyfarfod heddiw’n gyfle i drafod ein blaenoriaethau ar ôl Brexit a sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod y blaenoriaethau hynny’n ystyriaeth yn nhrafodaethau Llywodraeth y DU ar delerau ac amseriad gadael yr UE. 

“Yr UE sydd wedi rhoi’r fframwaith ar gyfer cyllido a rheoleiddio amaethyddiaeth a’r amgylchedd ar draws y DU gyfan, yn ogystal â bod yn bwysig i’n cysylltiadau masnachu.  Mae’n hanfodol felly ein bod yn chwarae ein rhan lawn fel gweinyddiaethau datganoledig i benderfynu ar sylfaen ein polisïau, rhaglenni a rheoliadau yn y dyfodol.” 

Meddai Gweinidog McIlveen:

“Rwy’n falch iawn o gael bod yma yn y Sioe Fawr ar wahoddiad Lesley Griffiths ac i gael gweld â’m llygaid fy hun gryfder ac amrywiaeth y diwydiant bwyd-amaeth yng Nghymru. 

“Rydym oll bellach yn gweithio yng nghyd-destun pleidlais y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd a’m prif flaenoriaeth yw sicrhau bod diwydiant bwyd-amaeth, cymunedau gwledig a rhanddeiliaid amgylcheddol Gogledd Iwerddon yn manteisio’n llawn ar y cyfle newydd hwn.

“Ond dw i ddim am wneud yn fach o’r cyfleoedd.  Dyna pam dw i wedi ymrwymo i weithio gyda fy nghyd-weinidogion yn holl weinyddiaethau datganoledig y DU i sicrhau bod y sectorau da byw a chnydau yn parhau i gael eu helpu.  Yn wir, gwnes i bwysleisio hynny wrth Weinidog DEFRA George Eustice pan gwnaethom gwrdd ym Mrwsel ddechrau’r wythnos.”