Neidio i'r prif gynnwy

Gwnaeth Brif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop, gwrdd â phlant yn Sioe Frenhinol Cymru heddiw i ddysgu pwysigrwydd bioddiogelwch effeithiol iddynt.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwnaeth y Prif Swyddog Milfeddygol gynnal nifer o ymarferion gyda'r plant gan gynnwys chwarae gyda "germau" anweledig, ysgwyd llaw a'r her "golchi welis". 

Diben y digwyddiad oedd dysgu'r plant sut mae germau ac afiechydon yn cael eu lledaenu a phwysigrwydd glanhau'n drylwyr er mwyn atal clefydau heintus megis Clwy'r Traed a'r Genau.

Dosbarthwyd taflenni am bioddiogelwch hefyd yn ystod y Sioe ac fe'u rhannwyd â stondinau partner i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd y mater.

Bioddiogelwch yw'r ffordd y gall ffermwyr a pherchnogion anifeiliaid fferm leihau'r perygl o glefydau. Mae'n hanfodol lleihau lledaeniad clefydau, yn enwedig clefydau heintus iawn megis Clwy'r Traed a'r Genau.  Mae bioddiogelwch gwell yn darparu tawelwch meddwl, stoc iach a busnes mwy llwyddiannus.

Meddai'r Prif Swyddog Milfeddygol, Christianne Glossop:

"Gall clefydau gael effaith ddinistriol ar dda byw, bywoliaeth ffermwyr a'n heconomi wledig. Dyna pam taw cadw anifeiliaid yn iach a rhwystro clefydau rhag lledaenu yw fy mlaenoriaeth bennaf.  

"Bioddiogelwch yw'r cam diogelwch cyntaf yn erbyn clefydau heintus difrifol hysbysadwy. Mae'n helpu i sicrhau bod anifeiliaid yn iach, mae'n rhwystro clefydau rhag lledaenu a gall wneud y fferm yn fwy effeithlon a phroffidiol. 

"Mae'n bosib mai'r plant y gwnes i gwrdd â nhw heddiw fydd ffermwyr y dyfodol. Felly mae'n hanfodol ein bod yn eu haddysgu mewn ffordd hwyliog ac effeithiol am bwysigrwydd bioddiogelwch i gadw anifeiliaid yn iach a chynnal cefn gwlad iach a bywiog."