Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths, wedi croesawu bwriad Llywodraeth UDA i gyhoeddi ymgynghoriad ar godi’r cyfyngiadau ar fewnforio cig oen o Brydain.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r gwaharddiad ar fewnforio cig oen o Brydain i UDA yn dyddio o 1996 yn sgil y clefyd Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (BSE).  Cafodd y gwaharddiad ei estyn mewn rhai gwledydd i gig dafad gan fod clefyd o’r un teulu – Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSE) - yn effeithio ar ddefaid.

Amcan yr ymgynghoriad yw gwneud deddfwriaeth UDA yn gyson â chyngor corff iechyd y byd ar iechyd anifeiliaid nad yw TSE yn berygl i iechyd pobl. 

Mae’r ymgynghoriad yn gam o’r ffordd at godi’r gwaharddiad ar allforio cig oen o Gymru i UDA.  Mae’n dilyn trafodaethau maith rhwng gweinidogion Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig a swyddogion o Adran Amaeth UDA (USDA).  Wythnos ddiwethaf, croesawodd Ysgrifennydd y Cabinet counselor amaeth USDA, Stan Phillips i’r Sioe Fawr. 

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:

“Rwy’n llwyr gefnogi’r datblygiad hwn, sy’n paratoi’r ffordd ar gyfer codi’r gwaharddiad ar allforio cig oen o Gymru i UDA.  Rydyn ni wedi gweithio’n ddiflino’n ddiweddar i argyhoeddi Llywodraeth UDA fod ein cig oen o’r safon uchaf ac ar ben hynny, yn ddiogel i’w fwyta.  Pwysleisiais y pwynt hwnnw wrth Stan Phillips prin wythnos yn ôl yn y Sioe Fawr.  Byddwn yn para i drafod y pwnc dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf i sicrhau ein bod yn dod i gasgliad llwyddiannus.

“Yn dilyn penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, rhaid chwilio am fargeinion newydd gyda marchnadoedd ym mhob cwr o’r byd.  Mae UDA yn farchnad anferth gyda 300 miliwn o gwsmeriaid posibl.  Gallai’r datblygiad hwn fod yn gyfle euraid inni ddangos ein cig oen o safon byd i gynulleidfa newydd gan roi hwb anferth yr un pryd i ddiwydiant cig coch Cymru.”