Neidio i'r prif gynnwy

Mae ffigurau newydd dros-dro sy’n cael eu cyhoeddi heddiw yn dangos bod ailgylchu yn parhau i gynyddu a’i fod ar y lefel uchaf a gofnodwyd erioed.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn 2015/16 roedd y cyfraddau ail-ddefnyddio cyfun, ar gyfartaledd, sef ailgylchu a chompostio, ar draws y 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn 60%, cynnydd o 4 pwynt canran ar ffigurau y llynedd. Mae 2% yn uwch na’r Targed Ailgylchu Statudol newydd uchelgeisiol o 58%.
 
Mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, yn croesawu’r ffigurau.  Dywedodd:

“Dyma’r flwyddyn gyntaf i’r lefelau ailgylchu gynyddu y tu hwnt i’r targed uchelgeisiol o 58%, cynnydd o darged y flwyddyn flaenorol o 52%. Mae’r ffaith bod y ffigurau  hyn nid yn unig yn cyrraedd y targed, ond, yn wir, yn uwch na’r targed yn hynod galonogol, gan ddangos ein bod yn parhau i wella ein cyfradd ailgylchu.”

Mae’n amlwg bod Awdurdodau Lleol a deiliaid tai yn gweithio’n galed i ailgylchu, ac rydym wedi mynd yn bell iawn tuag at gyflawni ein targed ailgylchu o 70%  a benwyd ar gyfer 2025. Rwy’n falch iawn ein bod yn arwain gweddill y DU o ran ein cyfradd ailgylchu ond rwyf am i ni wneud hyd yn oed yn well a dod yn un o’r gwledydd gorau yn Ewrop am ailgylchu.”  

Mae pob un ond tri o’r dau-ar-hugain o Awdurdodau Lleol wedi llwyddo i gyrraedd y targed o 58%, yn seiliedig ar y data dros-dro.  Mae’r Awdurdodau Lleol sy’n weddill wedi derbyn cyllid ychwanegol fel rhan o Raglen Newid Gydweithredol Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn eu galluogi i wella eu gwasanaethau casglu a chyfleusterau’r depo a’u helpu i gyrraedd y Targedau Ailgylchu Statudol yn y dyfodol.  

Datganiad chwarterol: Rheoli Gwastraf Trefol yr Awdurdod Lleol Ionawr - Mawrth 2016