Neidio i'r prif gynnwy

Mae achosion o TB Gwartheg yn Ardal Triniaeth Ddwys (IAA) Cymru wedi gostwng 35% ers ei sefydlu, yn ôl adroddiad newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd yr IAA ei sefydlu yng Ngogledd Sir Benfro yn 2010 fel ardal ag iddi fesurau llymach ar gyfer mynd i'r afael ag achosion TB Gwartheg. Mae'r mesurau hynny'n cynnwys mesurau rheoli gwartheg, mesurau bioddiogelwch gwell, brechu moch daear a phrofi geifr ac anifeiliaid o deulu'r camel. Dyma drywydd newydd i'r DU.

Mae adroddiad heddiw'n awgrymu bod y mesurau hyn yn gweithio, gyda sefyllfa'r clefyd yn gwella'n gynt yn yr IAA nag mewn ardaloedd cyffiniol, lle gwelwyd cwymp o 23% yn yr un cyfnod.

Mae cyfran y buchesi sydd o dan gyfyngiadau oherwydd TB Gwartheg yn yr IAA wedi cwympo i 14.3%, o'i gymharu â 22.3% yn 2010.

Gan groesawu'r adroddiad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

"Rydym wedi cymryd camau mawr ymlaen ers dechrau'r Rhaglen i Ddileu TB yn 2008 ac nid oes TB Gwartheg ar 95% o fuchesi Cymru erbyn hyn. Er bod rhai'n dadlau mai'r cwymp yn y blynyddoedd diwethaf yn nifer y buchesi yw'r rheswm am hyn, mae'n bwysig cofio bod cyfran y buchesi sydd â TB hefyd wedi cwympo 26% ers 2008.

"Mae'r adroddiad yn destun calondid ac mae'n dangos bod yr holl fesurau a ddefnyddiwyd yn yr IAA wedi cael effaith lesol ar y clefyd. Dyma ragor o dystiolaeth bod ein rhaglen ar gyfer gostwng yr achosion o TB yn gweithio, gyda nifer yr achosion newydd yn is nawr nag ers 12 mlynedd."

Mae'r adroddiad yn ategu'r ffaith hefyd nad yw'r cynnydd diweddar yn nifer y gwartheg sy'n cael eu difa yng Nghymru oherwydd TB yn golygu bod y sefyllfa'n gwaethygu. Y rheswm pennaf am y cynnydd hwnnw yw'r cynnydd yn y defnydd o'r prawf gwaed gamma interferon, prawf mwy sensitif, a dehongliad mwy difrifol o'r prawf croen. Mae'r cynnydd hwnnw wedi digwydd gan fwyaf yn yr ardaloedd lle cynhelir y prawf gama.

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet:

"Llynedd, cyhoeddais ymgynghoriad ar y camau nesaf yn ein rhaglen i ddileu TB. Roedd llawer o'r ymatebion yn cytuno â ni bod angen ymateb mwy rhanbarthol, fydd yn gwneud yn fawr o'r cynnydd sydd eisoes wedi'i wneud ac yn hwb i'n hymdrechion i sicrhau Cymru heb TB. Byddaf yn gwneud datganiad ar ddyfodol ein rhaglen i ddileu TB fis nesaf."