Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn, becyn o fesurau ar gyfer gwella ansawdd aer yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

 Ymhlith y mesurau fydd cronfa gwerth £20 miliwn i leihau allyriadau a gwella’r amgylchedd yng Nghymru. Bydd y Gronfa Ansawdd Aer, a fydd ar gael tan 2021, yn helpu awdurdodau lleol i gydymffurfio â therfynau nitrogen deuocsid a gwella ansawdd aer yn eu hardaloedd.

Yn ystod y cyfarfod llawn, cyhoeddodd y Gweinidog y bydd proses ymgynghori yn cael ei lansio yfory ar gynlluniau i sefydlu Parthau Aer Glân, sef ardaloedd dynodedig  lle bydd camau’n cael eu cymryd i leihau’r cyfle i’r cyhoedd a’r amgylchedd ddod i gysylltiad â deunydd llygredig yn yr awyr.

Mae’r cynigion yn cynnwys atal y cerbydau sydd fwyaf llygredig, neu gyfyngu ar y cerbydau hynny, rhag cael mynediad i’r Parth Aer Glân, gan felly leihau tagfeydd ar y ffordd a lleihau allyriadau yn y Parthau Aer Glân a’r ardaloedd cyfagos.

Bydd proses ymgynghori yn agor yfory ar y cynlluniau i leihau crynodiadau o nitrogen deuocsid, fel rhan o gynllun ehangach yn y DU i fynd i’r afael â chrynodiadau NO2 ar ochr ffordd.

Yn ogystal, cadarnhaodd y Gweinidog fesurau, gan gynnwys terfynau cyflymder dros dro, fydd yn dod i rym yn ystod y ddau fis nesaf i leihau lefelau nitrogen deuocsid (NO2) ar y ffyrdd hynny lle mae’r lefelau y tu hwnt i’r lefelau cyfreithlon ar hyn o bryd. Ymhlith y cyfyngiadau fydd cyflwyno terfyn cyflymder o 50 mya yn y darn byr o’r ffordd lle mae’r lefelau yn rhy uchel a hynny mewn pum lleoliad:

  • A494 yng Nglannau Dyfrdwy
  • A483 yn Wrecsam 
  • M4 rhwng Cyffordd 41 a Chyffordd 42 (Port Talbot)
  • M4 rhwng Cyffordd 25 a Chyffordd 26 (Casnewydd)
  • A470 rhwng Upper Boat a Phontypridd

Disgwylir i’r mesurau hyn ddangos gwelliant yn syth i ansawdd aer yn y lleoliadau allweddol, a’r disgwyl yw y bydd y terfynau cyflymder 50 mya yn arwain at leihad o ryw 18% yn yr allyriadau.

Bydd gwefan newydd Ansawdd Aer yng Nghymru yn cael ei lansio, i alluogi pobl i edrych ar wybodaeth am ansawdd yr aer yn eu hardaloedd nhw, a hynny’n fyw. Bydd y wefan hefyd yn darparu data lleol ar y lefelau llygredd aer cyfredol a’r lefelau a rhagwelir, ynghyd â data hanesyddol. Bydd hefyd yn cynnwys deunyddiau addysgiadol, gemau a syniadau ar gyfer ysgolion a gwell cyngor ar iechyd.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn:

“Rwy’n hynod o falch i gyhoeddi’r pecyn o fesurau i wella ansawdd aer yng Nghymru, gan gynnwys cronfa gwerth £20 miliwn i helpu awdurdodau lleol i roi trefniadau yn eu lle i leihau llygredd aer yn eu hardaloedd.

“Byddwn yn annog awdurdodau lleol i gyflwyno Parthau Aer Glân, yn yr ardaloedd hynny lle mae’r dystiolaeth yn dangos bod eu hangen i leihau allyriadau niweidiol, ynghyd â lansio gwefan newydd fydd yn galluogi pobl i edrych ar ansawdd aer yn eu hardaloedd hwy.

“Mae sicrhau aerr glân un o fy mlaenoriaethau allweddol. Rwy wedi ymrwymo i gymryd camau i fynd i’r afael â llygredd aer yng Nghymru er mwyn creu dyfodol iach i’n cymunedau ac er mwyn gwarchod ein hamgylchedd naturiol.

“Rwy’n hyderus bydd y mesurau rwy’n eu cyhoeddi heddiw yn cefnogi’r newidiadau y mae angen i ni eu gwneud er mwyn sicrhau aer glanach.