Neidio i'r prif gynnwy

Bydd ap i gefnogi busnesau bwyd a diod o Gymru ar ôl Brexit, drwy ddarparu gwybodaeth amser real am eu diwydiant, yn cael ei lansio’n ddiweddarach heddiw  gan Lesley Griffiths.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nod yr ap cerdyn sgorio, a fydd yn cael ei lansio yng Nghegin Bodlon, yw cefnogi busnesau bwyd a diod o bob cwr o Gymru a’u helpu i ymateb i’r heriau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â Brexit. 

Ar gyfer busnesau bwyd y mae’r ap, a bydd yn eu helpu i gael gafael ar yr wybodaeth ddiweddaraf am eu busnes eu hunain ac am faterion sy’n effeithio ar y sector. 

Bydd y dechnoleg hon, sy’n un o’r technolegau mwyaf blaenllaw yn y byd, yn rhoi cyfle i aelodau clystyrau ac i fusnesau ehangach fynd ati ar unrhyw adeg i bwyso a mesur cryfderau a gwendidau eu busnesau a’i feincnodi yn erbyn gofynion y diwydiant.   

Sefydlwyd saith clwstwr er mwyn hyrwyddo cydweithio yn y sector. Mae’r clystyrau’n gwmnïau sy’n cynhyrchu Bwydydd Da, Bwyd Môr, Bwyd i’w Allforio, Bwyd Blaenllaw, MaethCymru, Diodydd a Mêl. 

Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: 

“Mae hwn yn ap cyffrous newydd a fydd yn dod â busnesau bwyd a diod o Gymru at ei gilydd ac a fydd yn  helpu’r sector i barhau i dyfu.

“Wrth inni baratoi i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, mae’n bwysicach nag erioed bod busnesau’n gweithio gyda llywodraethau mewn prosiectau fel hyn i sicrhau eu bod yn gryf ac yn gystadleuol er mwyn iddyn nhw fedru ffynnu mewn byd ar ôl Brexit. 

“Mae hon yn enghraifft wych o ddefnyddio technoleg i fynd i’r afael â heriau’r 21ain ganrif ac i sbarduno twf busnesau Cymru ac ymateb i’r heriau sy’n ein hwynebu ni i gyd o ganlyniad i Brexit.”