Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cyfle i croesawu cystadleuwyr ac enillwyr gemau Olympaidd a Pharalympaidd Rio yn ôl adref ar ddydd Iau 29 Medi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Caiff y digwyddiad ei gynnal rhwng 5-7pm y tu allan i'r Senedd ac ni fydd tâl mynediad. Bydd adloniant tebyg i garnifal, gan gynnwys band a dawnswyr samba ac aelodau o Principality Only Boys Aloud Academi 2016 yn diddanu'r gynulleidfa. Cyflwynydd Chwaraeon y BBC, Jason Mohammad, fydd yn arwain y noson.

Dylai unrhyw un sy'n awyddus i fod yn bresennol yn y digwyddiad gyrraedd blaen y Senedd erbyn 5pm.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:



"Fe wnaeth ein hathletwyr chwarae rôl allweddol yn llwyddiant timau Olympaidd a Pharalympaidd Prydain yn Rio de Janeiro. Llwyddon nhw i dorri’r record o ran nifer y medalau yn y Gemau Olympaidd ac roedd 10% o dîm Paralympaidd Prydain yn dod o Gymru. Unwaith eto, ry'n ni wedi dangos ein bod yn genedl o bencampwyr a'n bod yn gallu cynhyrchu athletwyr sy'n barod amdani ac sy’n gallu perfformio ar lwyfan byd-eang.

"Bydd y digwyddiad i’w croesawu adref yn ddiweddarach yn y mis yn gyfle i'r genedl ddiolch i'r athletwyr hyn sy'n ein hysbrydoli am y llawenydd a’r boddhad maen nhw wedi'i roi i Gymru'r haf hwn."

Yn ôl Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad:




"Ar ran y Cynulliad, rwy'n edrych ymlaen at ddathlu llwyddiant ysgubol ein sêr Olympaidd a Pharalympaidd, a hynny ar lwyfan cenedlaethol yma yn y Senedd. Mae cynifer o bobl ar hyd a lled y wlad wedi mwynhau eu gwylio’n cystadlu, ac yn hynod o falch eu bod wedi llwyddo i ennill mwy o fedalau nag erioed o’r blaen. Maen nhw’n siŵr o ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o athletwyr ac rwy'n gobeithio y bydd llawer o bobl yn ymuno â ni i'w llongyfarch."



Meddai Mark England, Rheolwr Tîm Prydain yn Rio 2016:

 

"A minnau'n Gymro balch, roedd yn bleser gweld Cymru’n cyfrannu'n helaeth at gyfanswm medalau'r Tîm, ac ar ôl ennill naw medal, mae'n eithaf teg dweud ein bod wedi gwneud yn well na'r disgwyl. Ry'n ni'n falch iawn o bob un ohonyn nhw ac o gyfraniad system chwaraeon Cymru at lwyddiant tîm Prydain."



Dywedodd Pippa Britton, Cadeirydd Chwaraeon Anabledd Cymru:




"Ry'n ni'n falch iawn o waith caled holl athletwyr Paralympaidd Cymru yn Rio.  Mae'r haf hwn wedi bod yn gyfnod euraidd i chwaraeon Cymru, ac unwaith eto mae ein hathletwyr wedi cynrychioli'r genedl gyda balchder ac ymroddiad.  Maen nhw wedi chwarae rôl bwysig wrth gyfrannu at lwyddiant tîm Paralympaidd Prydain ac ry’n ni'n edrych ymlaen nawr at eu croesawu'n ôl yn y digwyddiad yn y Senedd. Bydd yn gyfle i ni ddiolch iddyn nhw am eu hymdrechion, yn ogystal â rhoi’r clod haeddiannol iddyn nhw am eu llwyddiannau unigol."



Meddai Dr Paul Thomas, Cadeirydd Chwaraeon Cymru:




“Mae ein hathletwyr wedi mynd gam ymhellach na’r disgwyl ac wedi creu atgofion bythgofiadwy o flaen golygfeydd godidog Rio. Byddan nhw’n yn cael eu cofio am amser maith fel gemau gwych i fyd chwaraeon Cymru a Phrydain.

Dangosodd athletwyr profiadol fel Jazz Carlin a Becky James pam eu bod yn haeddu ennill y medalau, tra bod y rhai oedd yn cystadlu am y tro cyntaf, Chloe Tutton a Sabrina Fortune er enghraifft, wedi disgleirio fel sêr newydd Cymru. Ry’n ni’n gwybod bod ein hathletwyr yn ysbrydoli’n pobl ifanc drwy osod esiampl o ran penderfyniad, ymroddiad ac agwedd at waith, ar ben eu talent aruthrol ym maes chwaraeon. Bydd llawer yn edrych ymlaen at y gemau nesaf, sef Gemau’r Gymanwlad yn Awstralia yn  2018, ac ry’n ni’n barod i’w cefnogi wrth iddyn nhw anelu at gael rhagor o fedalau i Gymru.

“Mae’r digwyddiad i’w croesawu adref yn gyfle bendigedig i ddathlu eu llwyddiant yn Rio ac hefyd yn gyfle i ddiolch i’r bobl hynny, gan gynnwys eu teuluoedd ymroddgar, sydd wedi’u helpu i gyrraedd y nod. Wedi hynny, yn ôl â ni i weithio’n galed ar gyfer y gystadleuaeth nesaf – does dim amser i orffwys!”