Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones yn arwain cyfarfod cyntaf y Grŵp Cynghori ar Ewrop heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y grŵp, dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford, yn darparu cyngor i Lywodraeth Cymru ar yr heriau a’r cyfleoedd sy’n codi yn sgil ymadawiad y DU o’r UE. Bydd hefyd yn ystyried sut y gall Cymru barhau i weithio’n gadarnhaol gydag Ewrop.

Mae’r Grŵp Cynghori yn gyfuniad o bobl â phrofiad a dealltwriaeth fanwl o faterion Ewropeaidd, gan gynnwys Aelodau o Senedd Ewrop, arweinwyr busnes a chynrychiolwyr o brifysgolion, colegau, undebau llafur, y byd amaeth, gwasanaethau cyhoeddus a’r trydydd sector.

Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedodd y Prif Weinidog: 

“Rhaid i Gymru, ynghyd â phob un o’r gwledydd datganoledig, chwarae rhan lawn, weithredol yn y trafodaethau ar ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd er mwyn sicrhau bod ein buddiannau yn cael eu gwarchod yn llawn. Mae hyn yn cynnwys diogelu mynediad llawn a dilyffethair at y Farchnad Sengl er mwyn diogelu ein heconomi, a sicrhau ar yr un pryd nad yw gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei ddefnyddio fel cyfle i gymryd cam yn ôl ar faterion pwysig fel gwarchod hawliau gweithwyr.  

“Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn fenter gwbl newydd i’r Deyrnas Unedig ac mae’n hanfodol i ni ystyried amrywiol safbwyntiau ynghylch ffyrdd o sicrhau’r canlyniad gorau posibl i Gymru.”

Dywedodd Mark Drakeford: 

“Mae gan y Grŵp Cynghori gyfoeth o brofiad ac arbenigedd a fydd yn ein helpu i lunio dyfodol cadarnhaol i Gymru y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, ond yn gadarn o fewn Ewrop.

“Mae ffyniant a chyfeiriad Cymru yn y dyfodol yn y fantol. Mae’r materion hyn yn llawer dyfnach na buddiannau unrhyw blaid neu Lywodraeth benodol. Does dim modd i unrhyw unigolyn neu grŵp hawlio monopoli ar syniadau da, ac rydyn ni’n croesawu’r cyfle hwn i fanteisio ar gyngor y grŵp.”

Aelodau’r Grŵp Cynghori ar Ewrop:

  • Y Cynghorydd Phil Bale, Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd
  • Kevin Crofton, Llywydd, SPTS Technologies Ltd 
  • Yr Athro Richard B. Davies, Is-ganghellor, Prifysgol Abertawe 
  • Jill Evans ASE, Aelod o Senedd Ewrop
  • Nathan Gill ASE, Aelod o Senedd Ewrop
  • David Jones OBE, Pennaeth a Phrif Weithredwr, Coleg Cambria
  • Syr Emyr Jones Parry, Llywydd, Prifysgol Aberystwyth 
  • Dr Hywel Ceri Jones, Cyn-lysgennad cyllid yr UE yng Nghymru
  • Tom Jones OBE, Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop 
  • Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Kinnock, Cyn is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd
  • Martin Mansfield, Ysgrifennydd Cyffredinol, TUC Cymru
  • Ruth Marks MBE, Prif Weithredwr, CGGC
  • Y Farwnes Eluned Morgan AC, Cyn-aelod o Senedd Ewrop 
  • William Powell, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ewrop yn ystod y pedwerydd Cynulliad
  • Yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-ganghellor, Prifysgol Caerdydd
  • Kevin Roberts, Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Amaeth
  • Dr Kay Swinburne ASE, Aelod o Senedd Ewrop
  • Derek Vaughan ASE, Aelod o Senedd Ewrop
  • Emma Watkins, Cyfarwyddwr, CBI Cymru