Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn gwahodd plant ysgolion cynradd i fynd ati i ddylunio ei gerdyn Nadolig swyddogol eleni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gofynnir i blant ym mlynyddoedd 3 a 4 gyflwyno eu cardiau dwyieithog erbyn dydd Gwener 11 Tachwedd 2016.

Bydd y cerdyn buddugol yn cael ei ddewis gan y Prif Weinidog a hwn fydd ei gerdyn Nadolig swyddogol. Bydd y cerdyn yn cael ei anfon i bob rhan o Gymru ac i bedwar ban byd. Bydd yr arlunydd ifanc llwyddiannus yn cael ei wahodd hefyd i'r Senedd i gwrdd â'r Prif Weinidog. Bydd yr arlunydd buddugol hefyd yn cael copi wedi'i lofnodi o'r cerdyn mewn ffrâm.

Dywedodd y Prif Weinidog: 

"Rwy'n galw ar bob arlunydd ifanc addawol yng Nghymru i estyn am eu pensiliau lliw, eu creonau a'u pinnau ffelt i ddylunio fy ngherdyn Nadolig swyddogol.

"Rwy'n edrych ymlaen at weld pob un o gardiau'r plant - byddai gweld yr ymdrechion artistig yn fy rhoi yn hwyl yr ŵyl."

Dylech anfon y cynigion i: 

Non Jones
Tîm Cyfathrebu'r Cabinet
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ffôn: 029 2082 3942
E-bost: non.jones@cymru.gsi.gov.uk

Canllawiau ar y gystadleuaeth Cerdyn Nadolig

  • Mae'r gystadleuaeth ar agor i ddisgyblion ym mlynyddoedd 3 a 4 (7-9 oed) yng Nghymru
  • Dylai pob cerdyn fod yn faint A4 ar y mwyaf (210mm x 297mm)
  • Nid oes ots a yw'r cerdyn ar i fyny neu ar draws
  • Dylai pob cerdyn fod yn "fflat" - dim arwyneb anwastad h.y. dim gwlân cotwm, glitr ac ati
  • Lliwiau llachar sy'n cael eu hatgynhyrchu orau
  • Dylech osgoi cefndir tywyll
  • Dylai'r holl destun fod yn ddwyieithog - y Gymraeg yn gyntaf ac yna'r Saesneg
  • Cofiwch nodi enw, oedran, dosbarth ac ysgol y disgybl ar gefn y cerdyn
  • Yn anffodus, ni allwn ddychwelyd unrhyw gardiau
  • Dylai'r cerdyn Nadolig ein cyrraedd erbyn dydd Gwener 11 Tachwedd.