Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ysgol newydd fodern yn enghraifft o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu'r cyfleusterau addysgu gorau i'r plant sydd eu hangen fwyaf, meddai'r Prif Weinidog, Carwyn Jones heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd y Prif Weinidog yn bresennol yn y seremoni i dorri'r dywarchen heddiw [dydd Iau, 15 Rhagfyr 2016] i nodi dechrau'r gwaith o adeiladu ysgol newydd yn lle Ysgolion Cynradd Abertyswg a Phontlotyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £4 miliwn tuag at yr ysgol newydd, fydd yn cynnig amrywiaeth o gyfleusterau pan fydd yn agor ym mis Ionawr 2018. Bydd hyn yn cynnwys meithrinfa, canolfan Dechrau'n Deg, clwb garddio allgyrsiol ac amffitheatr.

Mae Rhaglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am fuddsoddi cyfanswm o £1.4 biliwn i ail-adeiladu ac adnewyddu 150 o ysgolion a cholegau ledled Cymru.

Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi £28.75 miliwn i wella cyfleusterau mewn ysgolion yng Nghaerffili.

Dywedodd y Prif Weinidog:  

"Mae'n bleser gweld y gwaith adeiladu'n mynd rhagddo yn yr ysgol gynradd newydd yng Nghwm Rhymni Uchaf. Bydd y buddsoddiad mawr hwn yn sicrhau bod y disgyblion yn gallu manteisio ar amrywiaeth o gyfleusterau o’r radd flaenaf gan wella eu profiad addysgol.

"Bydd yr ysgol newydd hon yn cynnwys ystafelloedd dosbarth a chyfleusterau modern i'r disgyblion a'r athrawon eu mwynhau.  Bydd canolfan blant integredig yr ysgol hefyd yn cynnig gofal yn y bore ac ar ôl ysgol i helpu’r rhieni sy'n gweithio a'r rheini sydd eisiau dychwelyd i'r gwaith."