Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cytundeb hanesyddol yn cael ei lofnodi gan Lywodraeth Cymru a chwmni Heathrow Airport Ltd er mwyn cefnogi twf economaidd a chwblhau'r drydedd redfa ym maes awyr Heathrow.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y Bartneriaeth Strategol yn cael ei llofnodi yng Nghaerdydd gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones ac Arglwydd Paul Deighton, Cadeirydd Heathrow Airport Ltd, gan nodi dechrau perthynas weithio glòs rhwng y partïon.

Ar frig y rhestr mae sicrhau bod yr estyniad yn Heathrow yn arwain at greu cynifer o swyddi â phosib yng Nghymru. A hithau’n debygol mai hwn fydd y prosiect seilwaith mwyaf yn Ewrop sydd wedi’i ariannu’n breifat, bydd angen cymorth sylweddol gan weithgynhyrchwyr a Busnesau Bach a Chanolig y DU er mwyn cwblhau’r gwaith yn Heathrow ar amser ac o fewn y gyllideb.

Bydd y bartneriaeth yn arwain at gyfleoedd busnes newydd yng Nghymru gan fod Heathrow, sy'n buddsoddi dros £1bn y flwyddyn yn ei safle, eisiau ehangu ei gadwyn gyflenwi er mwyn cyrraedd y nod.

Dywedodd y Prif Weinidog:

"Mae'r Bartneriaeth Strategol yn cael ei chroesawu’n fawr ac rwy'n falch iawn y bydd Llywodraeth Cymru a chwmni maes awyr Heathrow yn cydweithio er budd y ddwy ochr.

"Bydd yn agor y drws i ystyried amrywiaeth o gyfleoedd newydd, yn arbennig i’n cwmnïau sy’n rhan o’r gadwyn gyflenwi ar hyn o bryd gan eu bod yn meddu ar y profiad a'r arbenigedd i gefnogi prosiectau seilwaith yn Heathrow. Yn bendant, hoffwn weld canran llawer uwch o arian yn cael ei gwario yng Nghymru. Bydd Llywodraeth Cymru'n gwneud popeth o fewn ei gallu i roi cymorth i gwmnïau o Gymru gyflwyno cynigion ac ennill rhagor o waith yn Heathrow.

"Mae hefyd yn bleser cyhoeddi cynlluniau sydd eisoes yn yr arfaeth i gynnal yr uwchgynhadledd gyntaf ar gyfer busnes Heathrow yng Nghymru. Bydd hyn yn gyfle i'n cwmnïau yn y gadwyn gyflenwi gwrdd â thîm caffael Heathrow a thrafod cyfleoedd gyda nhw.

"Dyma ddechrau gwych i'r berthynas newydd hon ac mae nifer o feysydd eraill yr ydym yn awyddus i'w harchwilio gyda chwmni Heathrow."

Dywedodd Cadeirydd Heathrow, yr Arglwydd Paul Deighton: 

“Dw i eisiau sicrhau bod pob cwr o Brydain yn elwa ar ehangu’r maes awyr. Bydd y bartneriaeth strategol hon yn dod â ni’n nes at Gymru ac yn ein helpu i greu Heathrow estynedig.

“Bydd rhedfa newydd yn Heathrow yn creu hyd at 8,400 o swyddi medrus newydd ac yn sail i hyd at £6.4 biliwn o dwf, o’r gwaith adeiladu i’r cynnydd mewn twristiaeth ac allforion i Gymru. Mae’r bartneriaeth newydd hon yn arwydd o’n hymrwymiad i sicrhau bod yr estyniad yn Heathrow yn arwain at fanteision go iawn ledled Prydain. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cymru a busnesau Cymru fel ei fod yn llwyddiant.”

Mae'r Bartneriaeth Strategol yn nodi meysydd ar gyfer cydweithio a chyd-gyflenwi. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • ehangu a chwilio am gyfleoedd newydd ar gyfer y gadwyn gyflenwi yng Nghymru er mwyn bodloni amcanion gweithredol maes awyr Heathrow
  • edrych ar y posibilrwydd o leoli canolfannau gweithgynhyrchu cydrannau yng Nghymru i gefnogi'r gwaith o gyflenwi'r drydedd redfa
  • ymchwilio i’r posibilrwydd o ariannu teithiau awyren posibl rhwng Cymru a Heathrow drwy Gronfa arfaethedig Datblygu Llwybrau Heathrow. 

I annog cynnydd yn nifer y cyflenwyr o Gymru, bydd Heathrow yn cynnal ei uwchgynhadledd gyntaf ar gyfer busnes yng Nghymru ar 5 Gorffennaf. Bydd y cwmni’n dod â’i gyflenwyr mwyaf i Stadiwm Dinas Caerdydd lle byddan nhw’n cynnal sesiynau un i un â busnesau o bob maint. Bydd yn gyfle unigryw i fusnesau o Gymru ennill contractau i weithio ym maes awyr mwyaf y DU.

Wrth gydnabod pwysigrwydd cysylltedd mewn perthynas â gwella twf economaidd, bydd y bartneriaeth yn cynnwys cynnal astudiaeth ar y cyd o’r manteision i fusnesau a thwristiaid Cymru o daith fyrrach rhwng y ddau leoliad. Mae’r cytundeb hefyd yn cadarnhau y byddai cwmnïau awyrennau sy’n dymuno hedfan o Gymru i Heathrow yn gymwys i ymgeisio am swm cyfalaf cychwynnol o gronfa datblygu llwybrau’r maes awyr sy’n werth £10 miliwn.