Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol Cymru yn cael ei gynnal yn ddiweddarach heddiw yn Langemark, Gwlad Belg

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

<?xml:namespace prefix = "o" ns = "urn:schemas-microsoft-com:office:office" />Bydd y gwasanaeth yn cael ei agor gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ar y cyd â  Maer Langemark-Poelkapelle, Alain Wyffels, a Gweinidog-Lywydd Fflandrys, Geert Bourgeois. Yn ystod ei anerchiad, bydd y Prif Weinidog yn talu teyrnged i bawb a gymerodd ran yn y Frwydr ac yn darllen darn o'r Beibl (Micha 4: 1-5) yn  Gymraeg.  

Roedd Trydedd Frwydr Ypres (Passchendaele) yn un o frwydrau mwyaf erchyll y Rhyfel Byd Cyntaf, ac fe'i cofir oherwydd yr artaith o orfod ymlwybro drwy'r glaw a'r llaid. Chwaraeodd y 38ain Adran (Gymreig) ran bwysig yn y frwydr, gan gipio safleoedd allweddol ar yr Esgair yn Pilkem.

Mae'r frwydr yn un arbennig o arwyddocaol i Gymru oherwydd bod cynifer o filwyr o Gymru wedi colli eu bywydau, gan gynnwys y bardd Cymraeg enwog, a enillodd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Birkenhead yn 2017 ar ôl ei farwolaeth.  Ar ôl y Gwasanaeth Cenedlaethol, bydd y Prif Weinidog yn gosod torch ar fedd Hedd Wyn ym Mynwent Artillery Wood ar ran pobl Cymru.

Bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn siarad o faen y cerflun 9 troedfedd o ddraig, a godwyd i dalu gwrogaeth i'r gŵyr o Gymru a ymladdodd mor ddewr yn y frwydr.  Bydd yn dweud:


"Mae'n fraint aruthrol cael bod yn ôl yn Langemark ar gyfer yr achlysur pwysig hwn. Mae 3 blynedd wedi mynd heibio ers dadorchuddio'r gofeb ac mae'n fan priodol inni gael talu teyrnged a meddwl am aberth y rheini a gymerodd ran yn Nhrydedd Frwydr Ypres gan mlynedd yn ôl. Yn y llecyn heddychlon hwn heddiw, mae'n anodd dychmygu'r erchyllterau a wynebodd ein milwyr yn ystod y frwydr, a gwewyr y teuluoedd yn ôl gartref wrth iddyn nhw ddisgwyl am newyddion am eu hanwyliaid, gyda misoedd yn mynd heibio weithiau cyn iddyn nhw gael gwybod eu tynged.  Mae rhai o'r rheini a gollwyd yn cael eu cofio am eu cyfraniad I ddiwylliant Cymru – mewn meysydd megis barddoniaeth a chwaraeon – ond mae'n bwysig ein bod yn cofio'r holl ddynion hynny o Gymru a fu farw ar faes y gad. Heddiw, rydyn ni'n talu teyrnged i bob un ohonyn nhw am eu dewrder a'u gwrhydri."


Bydd Tywysog Cymru yn bresennol yn y gwasanaeth a gynhelir heddiw. Mae'n rhan o'r digwyddiadau sy'n cael eu cynnal yn 2017 o dan Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 − y rhaglen swyddogol i goffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru.

Yn gynharach yn y dydd, bydd y Prif Weinidog hefyd yn cynrychioli Cymru yn y Gwasanaeth Coffa a fydd yn cael ei gynnal gan Lywodraeth y DU ym Mynwent Tyne Cot.