Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones yn galw ar Lywodraeth y DU i roi'r gorau i sylwadau diofal ynghylch methu â dod i gytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd, a throi yn ôl at drafodaethau difrifol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gan dynnu sylw at effeithiau posib methu â dod i gytundeb, dywedodd Prif Weinidog y byddai troi cefn ar y trafodaethau yn achosi anhrefn a niwed parhaus i economi'r DU a'i diogelwch yn y dyfodol. 

Yn ystod y mis ddiwethaf, mae cyfres o sefydliadau arbenigol wedi rhybuddio am effaith methu â dod i gytundeb:  

  • Dywed Cymdeithas Feddygol Prydain y gallai arwain at oedi mewn diagnosis o ganser a gohirio rhai llawdriniaethau
  • Yn ôl Cymdeithas Peilotiaid Awyrennau Prydain gallai cwmnïau awyr y DU orfod rhoi'r gorau i hedfan
  • Dywed Consortiwm Manwerthu Prydain y gallai troi yn ôl at dariffau Sefydliad Masnach y Byd olygu bod prynwyr yn y DU yn talu hyd at draean yn fwy am eitemau bwyd bob dydd, ac y byddai rheolaethau tollau yn amharu ar y drefn yn ddifrifol ac o bosib yn effeithio ar faint o fwyd sydd ar ein silffoedd; 
  • Dywed y Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau y gallai ymadael 'dros ymyl y dibyn' roi ysgytwad i lif masnach a chadwyni cyflenwi ar draws yr UE
  • Yn ôl y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth, pe bai'r DU yn gweithredu fel caer annibynnol ac yn masnachu ar delerau Sefydliad Masnach y Byd, byddai ffermydd yr ucheldir yn anghynaliadwy yn economaidd
  • Mae banc o'r Iseldiroedd, Rabobank yn amcangyfrif y gallai 'dim cytundeb' arwain at lefel 20% yn is o gynnyrch domestig gros yn 2030 na phe byddem wedi aros yn rhan o'r UE.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd y Prif Weinidog: 

"Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a chefnogwyr Brexit byrbwyll gallio a gwrando ar yr hyn mae'r arbenigwyr yn ei ddweud. Dydy methu â dod i gytundeb ddim yn opsiwn. Byddai'n amhosibl lliniaru effeithiau canlyniad mor drychinebus i'r trafodaethau ar Brexit.  

"Rhaid i ni ganolbwyntio ar atal y canlyniad hwn, nid paratoi cynlluniau wrth gefn. Neu fe fyddem fel teithiwr ar y Titanic, yn gweld mynydd iâ mawr o'i flaen, ac yn mynd i chwilio am ei siaced achub a phacio'i eiddo yn hytrach na rhuthro i hysbysu'r capten am yr argyfwng.

"Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ganolbwyntio ar sicrhau safbwynt credadwy ar ein telerau ymadael er mwyn i'r Cyngor Ewropeaidd ym mis Rhagfyr fedru symud y trafodaethau ymlaen i'r ail gam, ac yn fuan iawn ar ôl hynny gytuno ar gyfnod pontio o ddwy flynedd o leiaf."