Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi penodi seicolegydd a niwrowyddonydd o fri rhyngwladol, yr Athro Peter Halligan, i swydd Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn rhinwedd ei swydd, bydd yr Athro Halligan yn rhoi cyngor gwyddonol annibynnol i'r Prif Weinidog ac yn arwain y gwaith o ddatblygu polisi gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru. Bydd hefyd yn gweithio i hybu astudio gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddyginiaeth i helpu i ddatblygu sylfaen wyddoniaeth gref yng Nghymru. 

Mae'r Athro Halligan wedi ennill bri yn rhyngwladol am ei ymchwil, ac wedi bod yn rhan allweddol o nifer o ddatblygiadau arloesol gan gynnwys sefydlu Canolfan Delweddu Prifysgol Caerdydd er Ymchwil yr Ymennydd (CUBRIC), Canolfan Delweddu Tomograffeg Gollwng Positronau Cymru at ddibenion Ymchwil a Diagnostig (PETIC), Sefydliad Niwrowyddoniaeth Wybyddol Cymru (WICN), Cyfres o Ddarlithoedd Anrhydeddus Haydn Ellis a Sefydliadau Ymchwil Prifysgol Caerdydd. 

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: 

"Mae'r Athro Peter Halligan yn wyddonydd rhagorol ac yn seicolegydd a niwrowyddonydd byd-enwog, ac mae ei ymchwil wedi ennyn clod a pharch ar lefel ryngwladol. Mae'r penodiad yn hwb mawr i sector gwyddoniaeth ac ymchwil cynyddol Cymru. 

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, 

"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Athro Halligan i gynyddu a gwella'r ymchwil rhagorol sy'n cael ei gynnal ledled Cymru. 

"Mae rôl gwyddoniaeth ac ymchwil yn economi Cymru o bwysigrwydd cynyddol ac rwy'n hyderus y bydd yr Athro Halligan yn ein helpu i wireddu ein huchelgais i greu sylfaen wyddoniaeth arloesol ac uchelgeisiol yng Nghymru." 

Dywedodd yr Athro Halligan: 

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau yn y swydd bwysig hon a gweithio gyda'r gymuned wyddoniaeth i sicrhau bod tystiolaeth ymchwil yn cael ei hystyried wrth i'r Llywodraeth lunio polisïau. Rwyf hefyd yn gobeithio parhau i adeiladu ar gynnydd fy rhagflaenydd i ddatblygu capasiti ymchwil ac arloesi, helpu i godi ein proffil a chynyddu ein gallu economaidd yma yng Nghymru."