Neidio i'r prif gynnwy

Mae Aelodau'r Cynulliad wedi pleidleisio drwy fwyafrif mawr i gefnogi Bil Llywodraeth Cymru i ddiogelu datganoli.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bwriad y Bil Parhad – neu'r Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r UE – yw ceisio trosglwyddo Cyfraith yr UE mewn meysydd sydd eisoes wedi'u datganoli i fod yn rhan o gyfraith Cymru ar y diwrnod y bydd y DU yn ymadael â'r UE. Bydd hyn yn darparu parhad a sefydlogrwydd cyfreithiol, ni waeth beth yw'r anghytuno dros Fil Llywodraeth y DU i ymadael â'r UE. 


Cyflwynwyd y Bil Parhad gan Lywodraeth Cymru oherwydd y pryderon difrifol am y Bil i Ymadael â'r UE sy'n caniatáu i Lywodraeth y DU gymryd rheolaeth dros feysydd polisi datganoledig, fel ffermio a physgota, ar ôl Brexit. 


Mae Gweinidogion Cymru yn parhau i geisio dod i gytundeb â Llywodraeth y DU ar welliannau i'r Bil Ymadael. Fodd bynnag, gan fod cymaint o amser wedi mynd heibio heb gytundeb rhwng y llywodraethau, nid oedd dewis gan Lywodraeth Cymru ond bwrw ymlaen â'r Bil Parhad fel ail ddewis i amddiffyn datganoli yng Nghymru.


Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: 


"Mae Aelodau'r Cynulliad wedi pleidleisio'n ddiamwys i gefnogi ein Bil i ddiogelu datganoli a sicrhau bod y pwerau sydd wedi'u datganoli ar hyn o bryd yn parhau yng Nghymru. 


"Byddai'r Bil i Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, yn caniatáu i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gymryd rheolaeth dros gyfreithiau a meysydd polisi sydd wedi'u datganoli. Mae hyn yn gwbl annerbyniol ac mae'n rhaid ei newid. 

"Rydyn ni'n parhau i ffafrio deddfwriaeth foddhaol i'r Deyrnas Unedig gyfan, gan ddiwygio'r Bil i Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd i sicrhau bod y setliad datganoli yn cael ei barchu. Fodd bynnag, rydyn ni wedi cyflwyno'r Bil Parhad gan fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod mor araf ac amharod i gydnabod ein pryderon rhesymol. Mae'r diffyg cynnydd hwn yn arwain at rwystredigaeth wirioneddol gan ystyried ein bod yn rhannu'r un amcanion â Llywodraeth y Deyrnas Unedig - sef sicrhau nad oes unrhyw rwystrau o fewn marchnad sengl fewnol y Deyrnas Unedig. Ond rhaid gwneud hyn drwy gydsyniad yn hytrach na gorfodaeth. 

"Nid yw'n rhy hwyr i ddod i gytundeb – ond mae'n rhaid i ni weld cynnydd pellach ar frys cyn inni allu cydsynio i'r Bil i Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae angen gwneud y newidiadau hyn yn gyflym gan fod yr amserlen Seneddol yn ein herbyn." 

Ni fydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'r Bil Parhad os bydd modd dod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU ynghylch y Bil i Ymadael â'r UE. Pryd hynny, bydd Gweinidogion Cymru yn argymell i'r Cynulliad roi cydsyniad deddfwriaethol i'r Bil i Ymadael â'r UE a bydd y Bil Parhad ei ddiddymu.