Neidio i'r prif gynnwy

Flwyddyn wedi i fesurau arbennig gael eu gosod ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; mae Vaughan Gething wedi canmol y cynnydd y mae'r bwrdd wedi'i wneud

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gosodwyd mesurau arbennig ar y bwrdd iechyd ar 8 Mehefin 2015 yn dilyn pryderon difrifol ac eithriadol ynghylch arweinyddiaeth, llywodraethu a chynnydd yno dros peth amser.

Dywedodd Vaughan Gething: 

"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi ymweld â'r Gogledd yn rheolaidd i gwrdd â staff, cleifion a phartneriaid. Mae ymroddiad, agwedd gadarnhaol ac ymdrechion y staff i oresgyn yr heriau maent yn eu hwynebu a chyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen wedi creu argraff dda iawn arnaf. 
"Mae'r bwrdd iechyd wedi cynnal ymgyrch recriwtio gynhwysfawr i gynyddu nifer y staff meddygol. Mae hefyd wedi gwneud cynnydd da o ran gwneud penodiadau allweddol, gan gynnwys penodi Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Meddygol, Cyfarwyddwr Nyrsio a Chyfarwyddwr Iechyd meddwl. Mae hyn yn newydd calonogol. 

"Rwy'n falch fod yr achos busnes amlinellol dros y Ganolfan Is-ranbarthol ar gyfer Gofal Dwys i'r Newydd-anedig wedi cael ei gymeradwyo gennym. Bydd yr achos hwn dros uned o'r radd flaenaf i ofalu am fabanod sâl a babanod sydd wedi cael eu geni'n rhy gynnar yn gallu symud ymlaen nawr i'r cam achos busnes llawn. Bydd yn helpu i ddarparu gofal o'r safon uchaf a'r canlyniadau clinigol gorau i famau a babanod ledled Gogledd Cymru.
"Mae'r bwrdd iechyd wedi cymryd camau i wella'r ffordd y mae'n ymateb i bryderon a chwynion cleifion, ac mae wedi adolygu ei phrosesau llywodraethu.  Mae ymgysylltu â'r cyhoedd a staff wedi cael ei bennu'n flaenoriaeth, fel y dylai fod.
"Mae'n amlwg fod y bwrdd iechyd yn dal i wynebu heriau ac mae ganddo lawer o waith i'w wneud cyn y gellir codi'r mesurau arbennig. Dywedais fis Hydref diwethaf y byddai'n cymryd cryn amser iddo wneud y gwelliannau sydd eu hangen, ond mae'r arwyddion o gynnydd yn galonogol.    "Mae'n hanfodol fod y bwrdd iechyd yn dal ati i wella er mwyn adeiladu ar y sylfaen y mae wedi ei gosod yn y 12 mis diwethaf."