Neidio i'r prif gynnwy

Dengys yr ystadegau diweddaraf y perfformiad gorau ar gyfer ambiwlansys ers i beilot i dreialu model ymateb clinigol gael ei gyflwyno fis Hydref diwethaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Am y tro cyntaf, mae pob bwrdd iechyd lleol (BILlau) wedi rhagori ar y targed cenedlaethol ac mae gwelliannau o ran ymatebolrwydd wedi’u gwneud fis ar ôl mis ers mis Mawrth.

Ym mis Mehefin, cyrhaeddodd cyfanswm o 77.1% o ymatebion brys i salwch neu anaf lle mae bywyd yn y fantol, sef galwadau coch, o fewn wyth munud. Roedd hyn yn uwch na'r targed o 65%, ac i fyny o 75.5% ym mis Mai 2016.  Yr ymateb safonol i'r math hwn o gleifion oedd 5 munud ac 1 eiliad.

Ac yntau’n croesawu'r newyddion da, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething:

"Mae'n amlwg o'r ystadegau newydd hyn y gall pobl fod yn gadarnhaol iawn ynghylch beth sy'n digwydd yn ein gwasanaeth ambiwlans. 

"Mae’r bobl sydd â'r angen mwyaf, sy'n wynebu sefyllfaoedd sy'n bygwth bywyd, yn cael eu gweld yn yr amser cyflymaf. 

"Mae hyn oll yn cael ei gyflawni yn erbyn cefndir o alw a phwysau cynyddol ar ein gwasanaeth ambiwlans. Ym mis Mehefin yn unig cafwyd dros 37,000 o alwadau brys i Wasanaeth Ambiwlans Cymru - sef, o roi hynny yn ei gyd-destun -  1,235 o alwadau bob dydd ar gyfartaledd.

"Mae’r gwasanaeth ambiwlans wedi bod yn bodloni ac yn rhagori ar y  targedau a bennwyd ar eu cyfer bob mis ers dechrau’r peilot ar gyfer ein model clinigol newydd, ac rydym ymhlith y gwledydd mwyaf tryloyw ar gyfer gwybodaeth ambiwlansys yn y byd. Yn wir, ceir diddordeb rhyngwladol parhaus yn y peilot ar gyfer y model ymateb clinigol yng Nghymru. 

"Mae parafeddygon, staff canolfannau cyswllt clinigol, arweinwyr clinigol, comisiynwyr a phawb sy’n gweithio i wella'r gwasanaeth yn barhaus yn haeddu clod am yr hyn sydd wedi’i gyflawni. Rwyf yn canmol eu hymdrechion ac yn diolch iddynt.

"Daw ein peilot o Fodel Ymateb Clinigol newydd ar gyfer gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru i ben cyn hir. Mae’r cynllun wedi para am flwyddyn ac mae’n canolbwyntio adnoddau mewn ffordd sydd wedi'i dylunio i wella canlyniadau i gleifion. Bu'r canlyniadau yn galonogol hyd yn hyn, ond mae mwy o waith i'w wneud bob amser. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad ar y camau nesaf yn yr Hydref.

"Rydym yn bodloni’r targedau yr ydym wedi’u gosod ar gyfer ein gwasanaeth ambiwlans. Nid ydynt yn llwyddo i wneud hynny dros y ffin. Rwyf am i’r gwelliant hwn mewn perfformiad barhau. Mae gennym lawer i ymfalchïo ynddo. Hir y parhaed felly."