Neidio i'r prif gynnwy

Yn ystod mis Awst ymatebodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i bron 80% o’r galwadau lle'r oedd bywyd yn y fantol o fewn wyth munud

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ymatebwyd i 78.1% o’r galwadau lle'r oedd bywyd yn y fantol, sef galwadau Coch, o fewn wyth munud, yn erbyn targed o 65%.  Mae hyn yn gynnydd o 2.8 pwynt canran ar y gyfradd ymateb o 75.3% ar gyfer mis Gorffennaf.  

Yr amser ymateb safonol ar gyfer galwadau Coch oedd 4 munud 44 eiliad a bodlonodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru y targed newydd ym mhob rhan o Gymru am y trydydd mis yn olynol.

Ymatebwyd i bron 70% o'r holl alwadau Melyn, sef galwadau lle mae'r sefyllfa'n ddifrifol ond nad yw bywyd yn y fantol, o fewn 20 munud.  

Dywedodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd:

“Mae cleifion â chyflwr sy'n peryglu bywyd yn parhau i dderbyn ymateb cyflym mewn argyfwng, a hoffwn ddiolch i staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru am eu hymrwymiad a'u gwaith caled.

“Mae eu hymdrechion yn helpu i sicrhau bod eu cymunedau’n cael gwasanaeth sy'n ddiogel ac yn brydlon.  Mae'r system newydd a gyflwynwyd gennym fis Hydref diwethaf yn gweithio'n dda ac yn rhoi blaenoriaeth i'r galwadau mwyaf brys.”