Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi cyhoeddi y bydd y gwasanaeth iechyd yn cael £50m i gynnal a gwella perfformiad dros gyfnod prysur y gaeaf

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwnaeth y cyhoeddiad wrth i bennaeth GIG Cymru Dr Andrew Goodall annog pawb i ddewis y gwasanaeth cywir er mwyn arbed amser ac i leihau’r pwysau ar y gwasanaethau brys prysur.  

Dywedodd Vaughan Gething:  

"Bydd y gwasanaeth iechyd yn cael £50m eleni i gynnal perfformiad ac i ateb y galw cynyddol am wasanaethau wrth i ni wynebu tymor y gaeaf. Rydyn ni'n buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd, ond gall bob un ohonon ni yma yng Nghymru gyfrannu at yr achos drwy wneud dewis doeth."

Dywedodd Dr Andrew Goodall:

"Mae dewis y gwasanaethau a'r triniaethau cywir yn arbed amser ac yn sicrhau eich bod chi a'ch teulu'n cael y gofal cywir, a hynny'n gyflym.

"Os oes gennych chi beswch, annwyd neu fân anhwylder, ewch at eich fferyllydd lleol am sgwrs yn y lle cyntaf.  Gallan nhw roi cyngor arbenigol, meddyginiaeth dros y cownter a phresgripsiynau, a'ch cynghori p'un a oes angen i chi weld meddyg ai peidio.

"Os yw eich symptomau’n parhau, os oes gennych chi haint neu os oes gan eich plentyn wres, ewch i weld eich meddyg teulu.

"Os nad yw'n achos sy'n peryglu bywyd a'ch bod yn ansicr at bwy i fynd, ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 neu ewch i http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk. Gallan nhw eich helpu i ddod o hyd i'ch fferyllydd agosaf neu'r gwasanaeth mwyaf priodol.

"Mae'r adran frys yna i bobl sy'n wael iawn neu sydd wedi cael anaf difrifol. Os nad dyma eich sefyllfa chi gallwch gael y gofal cywir yn gyflymach drwy wneud dewis doeth.  Hyd yn oed os yw'r adran frys yn agosach, nid dyma'r lle i fynd i drin y rhan fwyaf o broblemau iechyd.

"Mae sawl peth bach y gall pob un ohonon ni ei wneud i helpu fel sicrhau bod presgripsiynau wedi cael eu harchebu ymlaen llaw.  Gall ffrindiau a pherthnasau pobl hŷn helpu drwy fynd i'w gweld a gwneud yn siŵr eu bod yn cadw eu tai yn gynnes – 18 gradd fan leiaf – er mwyn atal unrhyw broblemau iechyd presennol rhag gwaethygu.

"Dewiswch y gwasanaeth cywir ar gyfer eich anghenion.  Dylai hyn arwain at ostyngiad yn yr amser aros a sicrhau bod y bobl sydd wir angen gofal brys yn ei gael.  Rwy'n gwybod y bydd staff y gwasanaeth iechyd yn gweithio'n galed y gaeaf hwn.  Gwnewch ddewis doeth er mwyn eu helpu nhw i'ch helpu chi."