Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething wedi dymuno Nadolig Llawen i bawb sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig, aeth yr Ysgrifennydd Iechyd i adran frys Ysbyty Nevill Hall i weld sut maen nhw'n ymdopi â phwysau ychwanegol tymor y gaeaf.  Aeth hefyd i Ysbyty Treforys yn Abertawe i gwrdd â'r bobl ifanc ar ward y plant. Cafodd sgwrsio gyda nifer ohonyn nhw a fydd yn cael triniaeth dros y Nadolig.

Dywedodd Vaughan Gething:

"Mae'r adeg hon o'r flwyddyn yn un brysur tu hwnt i bob rhan o'n gwasanaeth iechyd. Bydd staff gofal sylfaenol, staff yr ysbytai, y gwasanaethau brys a'r sector gofal cymdeithasol yn gweithio'n ddi-flino dros yr ŵyl i ddarparu gwasanaeth iechyd y gallwn ni i gyd ymfalchïo ynddo.

"Drwy gydol y flwyddyn, rwy'n cael nifer o lythyrau sy'n canmol staff ein gwasanaeth iechyd am y gofal y maen nhw, neu eu hanwyliaid wedi'i gael. Yr hyn sy’n fy nharo yw bod cynifer o bobl yn cyfeirio at dynerwch y gofal sy’n cael ei roi. 

"Dyna’r elfen sy’n gwneud gwahaniaeth i wellhad rhywun, ac sydd o gymorth pan fo rhywun yn wynebu cyfnod anodd.

"Y Nadolig hwn, neges syml sydd gen i i staff y gwasanaeth iechyd yng Nghymru: diolch yn fawr.

"I bawb sy'n rhoi gofal bob dydd o'r flwyddyn, mae eich gwaith caled a'ch ymroddiad i eraill yn haeddu ein clod a'n diolch. Byddai’r cyfan yn amhosib heboch chi. Mae wir yn fraint i mi gael gweithio i chi. Nadolig Llawen!"