Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi cyhoeddi pecyn gwerth £95 miliwn i gefnogi amrywiaeth o raglenni addysg a hyfforddiant ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn cefnogi nyrsys, ffisiotherapyddion a radiograffwyr, ynghyd â chynnig amryw o gyfleoedd i hyfforddi ym maes gwyddorau iechyd.

Bydd yn galluogi dros 3000 o fyfyrwyr newydd i ymuno â'r rhai sydd eisoes yn astudio ar raglenni addysg gofal iechyd ledled Cymru.Mae'r cyllid hwn yn ychwanegol at yr hyn y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi’i neilltuo ar gyfer nyrsio.

Bydd yn arwain at gynnydd o dros 13% yn y lleoedd ar gyrsiau nyrsio, ac mae hyn ar ben y cynnydd o 10% a welwyd yn 2016/17 a'r cynnydd o 22% a welwyd yn 2015/16. Bydd 40% o leoedd ychwanegol ar gael ar gyrsiau bydwreigiaeth.

Fel rhan o’r pecyn hefyd, bydd £500,000 o gymorth ychwanegol yn cael ei roi tuag at wasanaethau gofal iechyd cymunedol i ddatblygu arferion uwch, addysg a hyfforddiant sgiliau estynedig i gefnogi’r clystyrau gofal sylfaenol. 

Bydd cynnydd sylweddol yn yr addysg i nyrsys practis a nyrsys ardal, ynghyd ag yn nifer y lleoedd i gael hyfforddiant awdioleg mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol. Bydd yr arian hwn yn bwysig tu hwnt i'r gwasanaethau cymunedol ac yn sicrhau y gall llawer mwy o gleifion dderbyn gofal yn nes at y cartref yn hytrach na mewn ysbyty. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

"Ry'n ni'n dibynnu ar sgiliau, gwybodaeth a phrofiad y rhai sy'n darparu gofal yn y gwasanaeth iechyd yn ddyddiol.

"Mae hyn yn cynnwys nyrsys a pharafeddygon, yn ogystal â'r unigolion sy’n gweithio y tu ôl i'r llenni gan ddarparu gwasanaethau cymorth hanfodol fel profion labordy i alluogi gweithwyr iechyd eraill i wneud diagnosis a rhoi triniaeth.

"Mae addysg a hyfforddiant yn allweddol er mwyn sicrhau bod ein gweithlu’n gynaliadwy.

"Bydd y buddsoddiad hwn sy'n werth £95 miliwn yn sicrhau bod ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gallu darparu gofal o ansawdd uchel nawr ac yn y dyfodol, a bod y cleifion yn gallu cael gofal yn nes at y cartref."

Mae'r pecyn hefyd yn cynnwys nifer o leoedd ychwanegol i hyfforddi fel cydymaith meddygol o fis Medi 2017. Mae 12 lle ar gael ym Mhrifysgol Bangor ac 20 arall ym Mhrifysgol Abertawe. 

Bydd yr arian hefyd yn cefnogi'r gwaith o gyfuno addysg a hyfforddiant fferylliaeth gymunedol ac yn yr ysbyty fel eu bod yn rhan o’r un rhaglen.