Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 74 o roddwyr organau marw o ysbytai yng Nghymru yn 2017/18, sef y nifer mwyaf erioed o roddwyr organau yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Croesawodd Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, y newyddion gan ddweud:  

“Mae nifer y rhoddwyr organau yn bendant yn symud i’r cyfeiriad cywir ond mae angen inni gael mwy o flynyddoedd o ddata i ddod i gasgliadau cadarnach am effaith y newid yn y gyfraith.  

“Mae pob rhoddwr organau yn arbennig o werthfawr. Mae tua 300 o bobl yn marw mewn amgylchiadau lle mae’n bosibl rhoi organau. Rydyn ni’n annog pawb gytuno i fod yn rhoddwr organau, felly, ac i deuluoedd fod yn barod i gefnogi’r penderfyniad hwn. 

“Rhaid inni beidio ag anghofio bod pob rhif yn cynrychioli person a theulu sydd mewn galar. Rwy’n diolch i bawb sy’n dewis rhoi’r rhodd o fywyd, a’r teuluoedd sy’n cefnogi eu penderfyniad. Heb eu haelioni nhw, ni fyddai unigolion eraill yn cael trawsblaniad a fydd yn newid eu bywydau.

“Rydyn ni’n gwybod yn barod bod data ar gydsyniad yn dangos cynnydd yng nghanran y teuluoedd sy’n cefnogi rhoi organau ac mae hynny’n awr yn cael ei adlewyrchu yn y cynnydd mewn rhoddwyr organau. 

“Mae’r niferoedd yng Nghymru yn fach ac mae hyn wedi achosi amrywiad mewn perfformiad dros y blynyddoedd diwethaf. Er gwaethaf y cynnydd, mae dal mwy o bobl yn disgwyl am organau a all achub neu newid eu bywyd. Anogaf bawb i ystyried eu penderfyniadau am roi organau, ac i gofrestru eu penderfyniad ar y gofrestr rhoi organau, ac yna dweud wrth eu teulu am eu dewis gan ofyn iddynt ei anrhydeddu.”

Gallwch gofrestru eich penderfyniad unrhyw amser drwy ffonio 0300 123 23 23 (gwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG fydd yn ateb y galwadau hyn), mynd i www.rhoiorganau.org  neu drwy ddweud wrth eich teulu (a'ch ffrindiau).