Neidio i'r prif gynnwy

Bydd £20 miliwn yn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi yn y gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru bob blwyddyn, i gydnabod pwysigrwydd strategol cenedlaethol y sector.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

 Mae'r arian wedi cael ei roi yn sgil cyllid canlyniadol o gyllideb Llywodraeth y DU ym mis Mawrth, a bydd yn helpu i sicrhau bod y system yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol ac yn ymateb i'r pwysau sy'n wynebu llywodraeth leol.
Caiff y cyllid cylchol ei fuddsoddi mewn tri maes blaenoriaeth:
  • Bydd £9 miliwn yn cynyddu'r cyllid sydd eisoes ar gael i reoli costau'r gweithlu, ac hyrwyddo sefydlogrwydd y farchnad gofal cymdeithasol

  • Bydd £8 miliwn yn cefnogi gwaith i atal plant rhag cael eu derbyn i ofal a gwella canlyniadau i'r rheini sy'n gadael gofal

  • Bydd £3 miliwn yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol i helpu gyda gofal seibiant i ofalwyr, o ystyried y gwaith allweddol maent yn ei wneud
Mae ataliaeth wrth wraidd y penderfyniad i ddyrannu'r cyllid, a’r bwriad yw y bydd y buddsoddiad yn talu ar ei ganfed yn yr hirdymor. 

Mae'r cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw yn golygu y bydd cyfanswm o £55 miliwn o gyllid ychwanegol yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau cymdeithasol yn 2017-18.

Dywedodd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans:

"Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod ers amser maith bod y gwasanaethau cymdeithasol yn sector o bwysigrwydd strategol cenedlaethol, a dyna pam ein bod yn parhau i fuddsoddi llawer yn y maes hwn. Heddiw, mae'n bleser gen i gadarnhau y bydd £20 miliwn yn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi yn y gwasanaethau cymdeithasol, yn sgil cyllid canlyniadol a dderbyniwyd yn dilyn y gyllideb ym mis Mawrth.

"Rydym yn canolbwyntio ar ataliaeth - a bydd y cyllid yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar fywydau pobl, gan hefyd leihau costau i lywodraeth leol yn y tymor hwy.

"Bydd y buddsoddiad yn gwella canlyniadau i’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Caiff ei ddefnyddio i wella cynaliadwyedd y farchnad gofal cymdeithasol, lleihau nifer y plant sy'n cael eu derbyn i ofal, a gwella cymorth i ofalwyr."