Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Rebecca Evans wedi croesawu ymrwymiad newydd gan bartneriaid allweddol i sicrhau bod y bobl y mae angen cymorth arnynt yn ganolog i'r broses o gomisiynu gofal cymdeithasol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Concordat yw hwn rhwng y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol, Fforwm Cenedlaethol Darparwyr Cymru a  Chynghrair y Cynghreiriau a gynhelir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Bydd yn cael ei lansio gan y Gweinidog yn y Fforwm Blynyddol ar gyfer Darparwyr Gofal Cartref a gynhelir gan Gymdeithas Gofal Cartref y DU (UKHCA) yng Nghaerdydd yn nes ymlaen heddiw. UKHCA yw cymdeithas broffesiynol y darparwyr gofal cartref , sy'n cynrychioli dros ddwy fil o aelodau o bob rhan o'r DU.

Yn y Concordat mae'r rheini yn yr awdurdodau lleol, y byrddau iechyd, a hefyd y trydydd sector a'r sector annibynnol sy'n comisiynu ac yn darparu gofal yn addo canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau o safon sy'n seiliedig ar anghenion yr unigolyn, yn ogystal â sicrhau gwerth am arian.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi gofal cymdeithasol, gan gynnwys gofal cartref, gan fuddsoddi cyfanswm o £55 miliwn ychwanegol yn y sector yn 2017-18. Mae hyn yn cynnwys £25 miliwn ychwanegol i helpu llywodraeth leol i ymateb i'r pwysau cynyddol, ynghyd ag £19 miliwn ychwanegol i helpu i reoli costau'r gweithlu. 

Mae'r Concordat yn rhan o'r gwaith y mae'r Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol yn ei wneud i gefnogi'r byrddau partneriaeth rhanbarthol, yr oedd darpariaeth ar eu cyfer yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'r byrddau hyn yn tynnu ynghyd gynrychiolwyr o faes iechyd, y gwasanaethau cymdeithasol a'r trydydd sector i gynllunio a darparu gwasanaethau gofal a chymorth integredig. O fis Ebrill 2018 ymlaen, bydd gofyn i holl bartneriaid y byrddau roi eu cyllid at ei gilydd er mwyn cyd-gomisiynu lleoliadau cartref gofal i oedolion, yn hytrach na gwneud hynny ar wahân fel maen nhw'n ei wneud ar hyn o bryd. 

Dywedodd y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans: 

"Weithiau gwelir y gwaith comisiynu fel gwaith sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yn hytrach na fel elfen graidd o'r gwaith o ddarparu gofal o safon, fel y mae mewn gwirionedd.

"Dyna pam rwy mor falch o weld bod comisiynwyr a darparwyr gofal cymdeithasol, yn ogystal â'r rheini sy'n siarad ac yn gweithredu ar ran dinasyddion a chymunedau, wedi dod ynghyd i ddatblygu'r Concordat hwn. Ymrwymiad yw hwn i ddefnyddio dull gweithredu integredig wrth gomisiynu gofal, a fydd yn sicrhau gwerth am arian yn ogystal ag yn gwella llesiant pobl. 

"Mae hyn yn gydnaws â gweledigaeth ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, sy'n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau gofal cynaliadwy sy'n canolbwyntio ar anghenion yr unigolyn. 

“Dywedodd Dave Street, Cadeirydd y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol: "Rydyn ni i gyd yn gwbl ymwybodol o'r heriau difrifol sy'n wynebu gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn sgil y galw cynyddol ar y gwasanaethau a'r gweithlu, a'r pwysau ariannol llym. Rhaid i gomisiynwyr, darparwyr a chynrychiolwyr dinasyddion a chymunedau gydweithio i ddod o hyd i atebion effeithiol i'r heriau hyn. 

"Nod y Concordat yw helpu'r Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol, y Fforwm Darparwyr, a chynrychiolwyr dinasyddion a chymunedau a enwebir drwy Gynghrair y Cynghreiriau dan nawdd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, i weithio gyda'i gilydd i gyflawni'r amcan sy'n gyffredin i bob un ohonyn nhw, sef datblygu arferion comisiynu effeithiol ledled Cymru a fydd yn gwella canlyniadau i'r bobl y mae angen gofal a chymorth arnyn nhw."