Neidio i'r prif gynnwy

Mae Vaughan Gething, wedi galw ar Lywodraeth y DU i ddileu’r cap ar gyflogau a sicrhau bod arian ar gael i Lywodraeth Cymru fel bod modd i staff GIG Cymru gael y codiad cyflog y maent yn ei haeddu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd Vaughan Gething:

“Rwyf wedi ysgrifennu heddiw at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, Jeremy Hunt, yn pwyso arno i ofyn i Drysorlys y DU ddileu’r cap ar gyflogau a sicrhau bod arian ar gael ar draws y Deyrnas Unedig er mwyn i staff y GIG, sy’n gweithio mor galed, gael codiad cyflog o fwy na 1%.

“Ddoe, daeth Llywodraeth y DU o hyd i fwy na £1bn i roi diwedd ar gyni yng Ngogledd Iwerddon i bob pwrpas. Rwy’n llwyr ddisgwyl iddyn nhw wneud yn siŵr bod arian ar gael i’n galluogi ni i roi codiad cyflog haeddiannol i staff ein gwasanaeth iechyd sy’n gweithio mor galed. Maen nhw’n haeddu hynny o leiaf.”