Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynigion newydd i wella ansawdd a llywodraethiant gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r cynigion yn rhan o Bapur Gwyn, Gwasanaethau sy'n Addas i'r Dyfodol, Ansawdd a Llywodraethiant ym maes Iechyd a Gofal yng Nghymru, a gyhoeddwyd ar y cyd gan yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans.

Mae'r Papur Gwyn yn cynnwys nifer o gynigion i gefnogi ac annog ffyrdd mwy integredig o weithio a phroses well o wneud penderfyniadau, gan roi lles pobl wrth wraidd y gwaith o gynllunio a chyflenwi gwasanaethau.

Mae'r cynigion yn cynnwys safonau cyffredin a ffyrdd o ddelio â chwynion ar y cyd; proses well o wneud penderfyniadau ar draws y byrddau iechyd drwy Ddyletswydd Ansawdd newydd ar gyfer Poblogaeth Cymru a phroses gliriach ar gyfer newid gwasanaethau; yn ogystal â hyrwyddo ymhellach ddiwylliant o fod yn agored yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol drwy Ddyletswydd Gonestrwydd newydd.  

Mae hefyd gynigion ar gyfer cryfhau'r ffordd y mae'r cyhoedd yn cael eu cynrychioli ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac ar gyfer rheoleiddio ac arolygu.

Y cynigion sydd wedi'u hamlinellu yn y Papur Gwyn yw:

  • cryfhau arweinyddiaeth Byrddau Iechyd i hyrwyddo llywodraethiant ac arwain cryfach i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu harwain, eu cynllunio a'u datblygu yn y ffordd sydd angen iddynt fod yn y blynyddoedd sydd i ddod
  • cyflwyno Dyletswydd Ansawdd ar gyfer Poblogaeth Cymru a fydd yn canolbwyntio ar fyrddau iechyd yn cydweithio i ddiwallu anghenion y boblogaeth wrth gynllunio a chyflenwi gwasanaethau gofal iechyd o ansawdd
  • ymchwilio ar y cyd i gwynion sy'n ymestyn dros y maes iechyd a'r maes gofal cymdeithasol, ni waeth ym mha leoliad – bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod sefydliadau gwahanol yn cydweithio i ymchwilio i gwynion gan ei gwneud yn rhwyddach i bobl pan fo ganddynt bryder ynghylch gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
  • cryfhau llais y dinasyddion – mae hyn yn cynnwys cynigion i sefydlu trefniadau annibynnol newydd a fyddai'n cynrychioli buddiannau dinasyddion ar draws y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn lle'r model presennol o Gynghorau Iechyd Cymuned
  • proses gliriach i newid gwasanaethau – gan gynnwys system annibynnol i ddarparu cyngor clinigol am benderfyniadau yn ymwneud â newidiadau sylweddol i wasanaethau, gyda chyngor gan y corff newydd ar gyfer llais dinasyddion, a fydd yn annog gwaith ymgysylltu parhaus ac yn cyflymu'r newid strategol
  • gwella arolygu a rheoleiddio – gan gynnwys gwella'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer arolygu a rheoleiddio gwasanaethau iechyd a chwestiynau ynghylch a ddylid sefydlu corff annibynnol newydd ar gyfer llais y cleifion a rheoleiddio ac arolygu. 
Mae'r Papur Gwyn yn adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2014, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Mae Llywodraeth Cymru yn llwyr fwriadu cyfuno'r cynigion hyn â chanlyniad yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.

Wrth lansio'r ymgynghoriad, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

“Rydyn ni yng Nghymru yn ffodus o gael mwynhau rhai o'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gorau yn y byd, a’r rheini’n cael eu darparu gan staff ymroddgar ar bob lefel. Yn ei adroddiad y llynedd, cafwyd sylwadau ffafriol gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) sy'n fawr ei barch, ar ein systemau yng Nghymru, ond gwnaeth hefyd ein herio i wneud rhagor i gyflawni ein potensial o ddarparu gofal ardderchog sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i'n holl ddinasyddion.

"Bydd y cynigion rydyn ni'n eu cyhoeddi heddiw yn sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn addas i'r dyfodol. Mae'r Papur Gwyn yn edrych ar nifer o agweddau allweddol y system iechyd a gofal ac yn awgrymu rhai newidiadau y credwn a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy sicrhau bod pobl wrth galon gwasanaethau. Bydd hefyd yn galluogi sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol i weithio gyda'i gilydd ac ar draws ffiniau i sicrhau eu bod yn darparu'r gofal gorau posibl i bobl Cymru."

Bydd yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn ar agor o 28 Mehefin tan 29 Medi.