Neidio i'r prif gynnwy

Mae adroddiad sydd wedi cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru heddiw yn dangos bod nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru wedi sefydlogi

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r adroddiad hefyd yn dangos bod:

Fodd bynnag, dangosodd yr adroddiad bod nifer y marwolaethau yn gysylltiedig ag alcohol wedi syrthio, o 504 yn 2012 i 463 yn 2015.
Yn ôl yr adroddiad Clefyd yr Afu: Datganiad Blynyddol o Gynnydd, sy'n cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, bu farw 807 o bobl o glefyd yr afu yn 2015. Roedd y ffigur hwnnw yn gynnydd o 131 o farwolaethau (19.4%) dros y  bum mlynedd ddiwethaf. Mae mwy na thraean y marwolaethau o glefyd yr afu o ganlyniad i glefyd yr afu sy'n gysylltiedig ag  alcohol.
  • Llai o alcohol yn cael ei yfed: Dros y bum mlynedd diwethaf, mae gostyngiad wedi bod yn nifer yr oedolion a adroddodd eu bod yn yfed mwy o alcohol na'r hyn sy'n cael ei argymell y dydd, o 44% yn 2010 i 40% yn 2015 - ond roedd llawer gormod o bobl yn adrodd eu bod yn yfed mwy na'r hyn a oedd yn cael ei argymell y dydd yn ôl y canllawiau blaenorol, a bydd Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn parhau i ganolbwyntio ar hyn.
  • Mwy o wariant ar glefyd yr afu: Mae gwariant ar broblemau gastroberfeddol (sy'n cynnwys clefyd yr afu) wedi cynyddu o £339.3 miliwn yn 2014-15 i £362.6 miliwn yn 2015-16.
  • Mynediad gwell at driniaeth ar gyfer hepatitis C: Nid oes unrhyw gyfyngiad ar fynediad at driniaeth ar gyfer hepatitis C yng Nghymru, gan olygu mai Cymru yw'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig, ac un o'r ychydig wledydd yn y byd, i beidio â gosod cyfyngiad o'r fath. Mae gwasanaethau yng Nghymru yn ymwybodol o bob claf sydd â hepatitis C ac mae'r rheini sy'n dal i gael mynediad at ofal wedi cael eu trin erbyn hyn. Yn ystod 2016-17, cafodd 772 o unigolion eu trin ar gyfer haint hepatitis C yng Nghymru ac roedd y gyfradd gwella tua 95%.
Dywedodd Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd: 
“Yng Nghymru, rydyn ni am dorri ar nifer y bobl sy'n datblygu clefyd yr afu ac sy'n marw ohono. Rydyn ni am sicrhau bod pobl o bob oedran yn gwerthfawrogi iechyd yr afu da, a'u bod yn ymwybodol o beryglon goryfed, gordewdra a hepatitis feirysol sy'n cael ei gludo drwy'r gwaed. Dylai pawb ysgwyddo'r cyfrifoldeb eu hunain dros y ffordd maen nhw'n dewis byw er mwyn lleihau’r risg o ddatblygu clefyd yr afu y mae modd ei osgoi. 

“Yn ystod 2015-16, mae yna gynnydd parhaus wedi'i weld yn y gofal y mae cleifion â chlefyd yr afu yn ei gael yng Nghymru. Rydyn ni wedi gweld lleihad yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol dros y blynyddoedd diwethaf, ond rydyn ni'n sylweddoli hefyd fod llawer iawn i'w wneud eto. 
“Mae gwasanaethau'n gwella ledled Cymru, er gwaetha gorfod delio â galw cymhleth. Mae angen i'r gwasanaethau barhau i weddnewid os am ymdopi â nifer cynyddol y cleifion a'u hanghenion cymhleth.”